MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Aberystwyth, SY23 3BP
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £20.57 - £21.96 / awr
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 09 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £20.57 - £21.96 / awr
Swyddog y GymraegApplication Deadline: 9 March 2026
Department: Arall
Employment Type: Dros dro
Location: Campws Aberystwyth
Reporting To: Cyfarwyddwr Addysgu, Dysgu ac Addysg
Compensation: £20.57 - £21.96 / awr
DescriptionMae Swyddog y Gymraeg (Cefnogaeth sy'n ymwneud yn Uniongyrchol â Dysgwyr) yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo a datblygu defnyddio'r Gymraeg ar draws profiad y dysgwr. Gan weithio'n uniongyrchol gyda dysgwyr a staff addysgu, bydd deilydd y swydd yn cefnogi myfyrwyr i astudio, cwblhau asesiadau, a magu hyder trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog, gan sicrhau mynediad teg at gyfleoedd dysgu o ansawdd uchel.
Mae'r rôl yn cynnwys darparu cefnogaeth yn y dosbarth, cefnogaeth un i un, a chefnogaeth i grwpiau bach o ddysgwyr, gan gynorthwyo gyda datblygu iaith, deall asesiadau, a defnyddio'r Gymraeg yn effeithiol mewn cyd-destunau galwedigaethol ac academaidd. Mae Swyddogion y Gymraeg hefyd yn cydweithio'n agos â thimau addysgu i ymgorffori'r Gymraeg yn naturiol mewn gweithgareddau dysgu, addasu a datblygu adnoddau dwyieithog, a monitro cynnydd dysgwyr.
Mae'r swydd hon yn ganolog i gryfhau'r Gymraeg ar draws y ddarpariaeth, cefnogi dilyniant dysgwyr, a chyfrannu at amgylchedd dysgu cynhwysol, dwyieithog sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau sefydliadol a chenedlaethol.
Cyfrifoldebau AllweddolBydd disgwyl i Swyddog y Gymraeg wneud y canlynol:
Cefnogi Dysgwyr yn Unionyrchol
- Darparu cefnogaeth ieithyddol yn y dosbarth i ddysgwyr sy'n cwblhau gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog — egluro tasgau, esbonio geirfa, a defnyddio iaith fodelu.
- Cynnig sesiynau cefnogi un i un neu mewn grwpiau bach er mwyn datblygu sgiliau ysgrifenedig a llafar y dysgwyr yn y Gymraeg.
- Annog, arwain a chefnogi dysgwyr i roi cynnig ar asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg lle bo'n briodol.
- Helpu dysgwyr i ddeall tasgau briffiau aseiniad, a chyfieithu cynnwys angenrheidiol wrth ddefnyddio adnodd, testunau neu wefannau Saesneg yn unig,
- Addasu eu deunyddiau dysgu neu ymatebion i asesiadau yn hyderus i'r Gymraeg.
- Monitro cynnydd dysgwyr wrth ddefnyddio'r Gymraeg ar draws tasgau a rhannu diweddariadau gyda staff addysgu perthnasol gan ddefnyddio'r matrics asesu Cymraeg a fapiwyd a monitro ac olrhain.
- Cyflwyno gweithgareddau magu hyder byr yn y Gymraeg (e.e. heriau siarad neu ysgrifennu sydyn) ac mewn sesiynau lle mae єna nifer fwy o ddysgwyr sy'n siarad Cymraeg a darlithydd sy'n siarad Saesneg yn unig, mynd ati i gefnogi a hwyluso elfennau gwaith grŵp Cymraeg y sesiwn.
- Olrhain a monitro asesiadau Cymraeg a wnaed gan ddysgwyr.
- Cydweithio ag athrawon i gynllunio ac integreiddio elfennau'r Gymraeg yn naturiol i wersi ar gyfer y dysgwyr hynny rydych chi'n gweithio gyda nhw/yn eu cefnogi.
- Datblygu deunyddiau dysgu dwyieithog ar y cyd ac addasu adnoddau presennol, fel y rheiny gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer defnydd cyfrwng Cymraeg ar gyfer y dysgwyr hynny rydych chi'n gweithio gyda nhw/yn eu cefnogi.
- Cynnig cymorth cyfieithu neu brawfddarllen ar gyfer taflenni gwersi, briffiau asesu ar gyfer athrawon y dysgwyr hynny rydych chi'n gweithio gyda nhw/yn eu cefnogi.
- Cefnogi staff i nodi cyfleoedd i ddysgwyr arddangos y Gymraeg mewn prosiectau neu gyflwyniadau ar gyfer y dysgwyr hynny rydych chi'n gweithio gyda nhw/yn eu cefnogi.
- Helpu dysgwyr i ddeall meini prawf asesu yn y Gymraeg a pharatoi ar gyfer asesiadau dwyieithog.
- Cynorthwyo gyda chynnal diagnosteg sgiliau iaith i nodi mannau cychwyn dysgwyr a gosod nodau asesu ar gyfer y dysgwyr hynny rydych chi'n gweithio gyda nhw/yn eu cefnogi.
- Cofnodi cyfranogiad a chynnydd dysgwyr mewn gwaith cyfrwng Cymraeg at ddibenion monitro ac adrodd ar gyfer y dysgwyr hynny rydych chi'n gweithio gyda nhw/yn eu cefnogi. Bydd hyn yn cael ei gofnodi ar y brif daflen olrhain a monitro cwrs berthnasol.
- Datblygu sgiliau Iaith Gymraeg yr holl ddysgwyr.
- Gweithio gyda staff i sicrhau bod myfyrwyr yn cael cyfle i astudio a chwblhau gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
- Cefnogi myfyrwyr sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog a nodi eu cynnydd ar EBS a gyda'r tiwtor.
- Gweithio gyda staff addysgu i gynorthwyo myfyrwyr sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog gan gynnwys cefnogaeth un i un ac yn y dosbarth.
- Cynorthwyo gyda chyflawni asesiadau cychwynnol a phrofion diagnostig i asesu sgiliau Cymraeg dysgwyr.
- Gweithredu mesurau y cytunwyd arnynt i fonitro a gwella ansawdd y profiad ar gyfer myfyrwyr.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
Cymwysterau
- Gradd berthnasol neu Gymwysterau Addysgu
- TGAU Graddau A*-C mewn Mathemateg a Saesneg neu gyfwerth
- Gallu defnyddio ystod eang o systemau digidol
- Dadansoddi ac adrodd am farchnata digidol, recriwtio a data ymgyrch.
- Adeiladu perthnasoedd gwaith cydweithredol
- Ymagwedd broffesiynol a hyderus
- Cyfathrebwr ardderchog â diplomyddiaeth a thact
- Sgiliau trefniadol a rheoli amser ardderchog
- Sylw i fanylion, rhagweithiol a gallu defnyddio menter
- Gallu delio â materion sy'n sensitif yn wleidyddol
- Sgiliau rhyngbersonol ardderchog
- Sgiliau ysgrifenedig a chyfathrebu llafar ardderchog
- Wedi'i ysgogi gan ddatrysiadau a syniadau creadigol
- Ymagwedd frwdfrydig a chadarnhaol
- Ymagwedd ragweithiol tuag at waith tîm
- Hyblyg i weithio'r tu allan i oriau contract arferol
Profiad
- Dealltwriaeth o Addysg Bellach ac Uwch
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 4 Hanfodol
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 4 Hanfodol
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein