MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Aberteifi, SA43 1AB
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £21,040 - £21,249 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £21,040 - £21,249 / blwyddyn
Goruchwyliwr GlanhauApplication Deadline: 23 January 2026
Department: Swyddfa'r Campws
Employment Type: Parhaol
Location: Campws Aberteifi
Reporting To: Rheolwr Campws
Compensation: £21,040 - £21,249 / blwyddyn
DescriptionMae'r Goruchwyliwr Glanhau yn gyfrifol am sicrhau safonau uchel o lendid, hylendid a diogelwch ar draws campysau Coleg penodedig yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Mae'r rôl yn cynnwys goruchwylio a chefnogi staff glanhau, cydlynu cyflenwi ar gyfer absenoldeb, a chyflawni dyletswyddau glanhau ymarferol yn ôl yr angen.
Bydd deilydd y swydd yn rheoli agor a chloi adeiladau'r campws yn ddiogel, yn gweithredu systemau larwm, ac yn cynnal gwybodaeth ymarferol am systemau panel tân. Bydd yn sicrhau bod gweithgareddau glanhau yn cael eu cynnal yn effeithlon, yn ddiogel, ac yn unol â rheoliadau Iechyd a Diogelwch a COSHH, gan ddefnyddio deunyddiau a chyfarpar mewn modd cost-effeithiol.
Bydd y Goruchwyliwr Glanhau hefyd yn cydlynu glanhau ychwanegol ar gyfer digwyddiadau, yn adrodd ar faterion cynnal a chadw, yn cyfrannu at weithredu polisïau a gweithdrefnau'r Coleg, ac yn cydweithio i ddarparu amgylchedd diogel, glân a chroesawgar i ddysgwyr, staff ac ymwelwyr.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Sicrhau bod y coleg yn cael ei lanhau i safon uchel o fewn eich ardal ddynodedig a thrwy bob man.
- Mynd ati i gloi holl adeiladau'r campws yn ddiogel a rheoli'r broses honno ynghyd ag actifadu/dadactifadu systemau larwm. Agor y campws yn ôl yr angen.
- Gwybodaeth ymarferol am y panel tân er mwyn ailosod a thawelu yn ystod actifadu.
- Gallu goruchwylio staff glanhau h.y. trefnu cyflenwi mewn mannau lle mae salwch/gwyliau ac ati.
- Yr holl finiau i gael eu gwagio a'u leinio o'r newydd, sbwriel i gael ei adael y tu allan i adeiladau ar ddiwedd y sifft.
- Ardaloedd wedi'u carpedu i gael eu hwfro'n drylwyr yn ôl y gofyn.
- Ardaloedd lloriau caled i gael eu mopio'n sych neu'u brwsio. Rhai lloriau caled penodol i gael eu mopio neu'u bwffio bob dydd.
- Arwynebau gwaith, desgiau, byrddau a chyfarpar arall i gael eu glanhau a'u dwstio yn ôl y gofyn.
- Cynnal a defnyddio'r holl ddeunyddiau a chyfarpar yn y modd mwyaf effeithlon a chost-effeithiol.
- Gwneud gwaith glanhau ychwanegol fel bod angen ar ôl digwyddiadau mawr/ychwanegol i sicrhau bod yr adeilad yn cael ei baratoi i'r safon ofynnol at ddibenion gweithredol.
- Gweithredu yn unol â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a gofynion COSHH.
- Ystafelloedd i gael eu cloi ar eu gadael gyda'r goleuadau wedi'u diffodd pan fyddwch yn gadael.
- Adrodd wrth eich goruchwyliwr ynghylch unrhyw ddifrod neu ofynion cynnal a chadw
- Cyfrannu fel y bo'n briodol at weithredu holl bolisïau a gweithdrefnau'r coleg yn effeithiol.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill fel sy'n ofynnol gan y Pennaeth, y Cyfarwyddwr Ystadau ac Iechyd a Diogelwch, y Swyddog Ystadau a'r Goruchwyliwr Glanhau.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
- Profiad perthnasol
- Gallu gweithio'n effeithiol ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm
- Gallu dilyn cyfarwyddiadau a chwblhau tasgau'n gysylltiedig â'r swydd mewn modd effeithiol
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
- Tra brwdfrydig ac ymrwymedig i'r gwaith
- Gallu dangos menter o fewn yr amgylchedd gwaith
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 Dymunol
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1 Dymunol
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein