MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Pennaeth Gwasanaeth
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £59,424 - £65,279
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 03 Mawrth, 2023 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr

Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…

Teitl y Swydd: Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser

Cyflog: £59,424 i £65,279 y flwyddyn

Oherwydd ymddeoliad mae cyfle wedi codi ar gyfer unigolyn brwdfrydig a rhagweithiol i ymuno â’n uwch dîm rheoli. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain, rheoli ac yn datblygu’r Timau Gwasanaethau Dysgwyr ar draws holl safleoedd y coleg. Byddant yn creu gwasanaeth o safon uchel ar gyfer yr holl ddysgwyr, ymwelwyr a rhanddeiliaid.

Byddwch yn atebol am waith arwain, rheoli, cydlynu, datblygu a chyflwyno cyffredinol y ddarpariaeth sy’n cynnwys addysg gyrfaoedd, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, lles, cyllid myfyrwyr, cyfoethogi dysgwyr, llais myfyrwyr a diogelu.

Rydym yn chwilio am ymgeisydd sydd â phrofiad llwyddiannus profedig fel rheolwr mewn amgylchedd profiad myfyrwyr/gwasanaethau myfyrwyr yn ogystal â lleiafswm o dair blynedd o brofiad rheoli ym maes addysg bellach/addysg uwch.

Bydd dealltwriaeth y gellir ei harddangos o’r tueddiadau a’r materion cyfredol yn narpariaeth gwasanaethau myfyrwyr a diogelu a’u heffaith ar y sector AB, Fframwaith Arolygu Estyn/Ofsted a gofynion ar gyfer diogelu yn hanfodol. Yn ogystal â hyn, mae'n hanfodol bod gan yr ymgeisydd ymwybyddiaeth o ganllawiau Cadw Dysgwyr yn Ddiogel (Llywodraeth Cymru) a Deddf Cadw Plant yn Ddiogel mewn Addysg (Lloegr) a'u bod yn gallu gweithredu’r wybodaeth hon fel rhan o arferion dyddiol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddull cydweithredol a bydd yn meddu ar y gallu i gyfathrebu a dylanwadu’n effeithiol ar bob lefel yn y coleg.

Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r weledigaeth, sgiliau, arbenigedd a’r brwdfrydedd i wneud gwahaniaeth ac i’n helpu i wireddu ein huchelgais, hoffem gael clywed gennych. I gael rhagor o wybodaeth am ein huchelgeisiau ewch i weld ein Cynllun Strategol (2020-2023). I ddarllen ein hadroddiad arolygu addysg bellach diweddaraf ewch i Arolygiad AB Estyn o Goleg Cambria Hydref 2022.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Os byddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ddibynnol ar y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.

Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau ein swyddi gwag yn gynharach na’r dyddiad a nodwyd petaem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer y swydd.