Amdanom Ni
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Rydym yn creu dyfodol mwy disglair trwy ragoriaeth mewn addysg, mewn amgylchedd cefnogol ac arloesol. Yn ddiweddar, gwnaethom gyflawni 'Rhagoriaeth' yn ein harchwiliad Estyn!
Rydym yn rhoi croeso cynnes i'r holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn weithle i fod yn falch ohono. Rydym yn cydnabod yr angen i recriwtio, datblygu a chadw staff rhagorol. Rydym yn fuddsoddwr gwirioneddol mewn pobl felly nid yn unig rydym yn cynnig ystod helaeth o gyfleoedd i ddatblygu ond hefyd rydyn ni'n falch o'n pecyn buddion hael a'n hamgylchedd gweithio hyblyg.
Rydym wedi ymrwymo i'r arfer o gydraddoldeb, amrywiaeth, diogelu a llesiant ein staff sy'n cael ei gydnabod yn ein dyfarniad diweddar o'r Safon Iechyd Corfforaethol Aur ac achrediad Arweinydd Hyderus Anabledd.
Mae ein 'Gwerthoedd' yn diffinio'r agweddau a'r safonau a ddisgwyliwn gan bawb yng Ngholeg Cambria a defnyddiwn nhw'n weithredol ac yn weledol ar draws y coleg.
Rydym yn falch o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym yn chwilio am unigolion i ehangu ar ein gweithlu eithriadol. Gyda chymaint o gyfleoedd ar gyfer datblygu a buddion, rydym yn gobeithio y byddwch yn dewis Coleg Cambria fel cyflogwr.