MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £32,304 - £49,934
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cyfreithiol CC/2878

Coleg Cambria

Cyflog: £32,304 - £49,934

Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd Peirianneg Cynnal a Chadw Mecanyddol

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol, Llawn amser

Cyflog: £32,304 - £49,934

Mae gennyn ni swydd wag ar gyfer Darlithydd Peirianneg Cynnal a Chadw Mecanyddol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyflwyno ystod o gyrsiau Peirianneg ar lefelau Addysg Bellach o Lefel Mynediad i Lefel 3 ar ein safle Glannau Dyfrdwy. Gan ddangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu, byddwch chi'n addysgu sesiynau yn ôl yr amserlen, paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, cysylltu â chyrff dyfarnu cymwysterau a goruchwylio arholiadau yn ôl y galw. Byddwch chi'n rhoi arweiniad addysgol yn ogystal â cymorth a chyngor i bob myfyriwr o gefndiroedd amrywiol a gydag amrywiaeth eang o anghenion dysgu. Byddwch chi hefyd yn cysylltu â thiwtoriaid meysydd busnes eraill i drafod materion fel adnoddau, datblygu'r cwricwlwm, adroddiadau myfyrwyr a materion cysylltiedig eraill. Bydd gofyn i chi gynhyrchu a chwblhau dogfennau fel cofrestri, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau cyrsiau, dogfennau dadansoddi cyrsiau ac adroddiadau myfyrwyr.

Gofynion Hanfodol
  • Mae'n rhaid bod gennych chi gymhwyster Lefel 4 o leiaf mewn pwnc proffesiynol perthnasol neu gymhwyster cyfwerth.
  • Bod â chymhwyster addysgu addas fel TAR, Tystysgrif Addysg, neu'n barod o weithio tuag at hynny.
  • Gallu dangos sut rydych chi'n cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn eich maes arbenigol eich hun.
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog ac yn aelod cadarn o dîm.
  • Datblygu a defnyddio ystod o dechnegau addysgu a dysgu a pharatoi deunyddiau addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol.
  • Yn hunanysgogol, yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol ar eich liwt eich hun i derfynau amser y cytunwyd arnyn nhw.
  • Gallu defnyddio TG, gan gynnwys pecynnau fel Microsoft Office a rhaglenni Google yn ddelfrydol.
  • Ymwybodol o bwysigrwydd safonau ansawdd mewn dysgu.
  • Mae gallu defnyddio pecynnau meddalwedd CAD/CAM a/neu Matlab/Mathcad yn fantais

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'r gwaith a wnawn. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Ni fydd cais sy'n cael ei gyflwyno'r Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn Saesneg.

Mae ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn ni'n gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch chi'n gwneud cais amdani ac os ydych chi'n llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer caiff swyddi eu hysbysebu gydag ystod gyflog. Os ydych yn cael cynnig swydd i chi yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried i benderfynu ar eich cyflog cychwynnol.

Sylwch fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn cael nifer fawr o geisiadau. Byddwn ni'n argymell eich bod chi'n cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai