MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £30,620 Codiad cyflog i ddod - £47,331 Codiad cyflog i ddod
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Mehefin , 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Darlithydd Lletygarwch ac Arlwyo CC/2863

Coleg Cambria

Cyflog: £30,620 Codiad cyflog i ddod - £47,331 Codiad cyflog i ddod

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd Lletygarwch ac Arlwyo

Lleoliad: Iâl

Math o Gontract: Rhan-amser (14.49 awr yr wythnos), Cyfnod Penodol tan Fehefin 2027

Cyflog: M1 £12,650.25- UP3 £19,554.15. Mae pwyntiau ystod gyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i'r Raddfa Dâl Uwch

Bydd y swydd yn dechrau ym mis Medi 2025.

Mae Coleg Cambria yn chwilio am Ddarlithydd Lletygarwch ac Arlwyo brwdfrydig a dawnus i ymuno

â'n tîm ymroddedig ar safle Iâl. Mae'r swydd yn cynnwys addysg o safon uchel hyd at Lefel 3 gan

gynnwys paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr a chynnal cysylltiadau cadarnhaol gyda

chyrff dyfarnu. Fel darlithydd byddwch yn cynnig arweiniad a chymorth addysg hanfodol i fyfyrwyr

gan weithio fel tiwtor personol pan fo angen a chyfrannu at eu datblygiad academaidd a phroffesiynol

yn gyffredinol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl hanfodol mewn recriwtio a chyfweld darpar fyfyrwyr

yn ogystal â chynllunio, marchnata a gwerthuso'r cynigion cwrs. Mae cydweithio gyda thiwtoriaid o

feysydd busnes eraill, noddwyr myfyrwyr a chyflogwyr yn allweddol i sicrhau profiad addysgol cyflawn.

Byddwch yn gyfrifol am gadw at, a gweithredu systemau ansawdd, monitro a gwerthuso sesiynau

dysgu a chymryd rhan mewn gweithdrefnau hunanasesu, archwiliadau mewnol a gweithgareddau

dilysu'r Coleg.

Yn ogystal â'ch cyfrifoldebau addysgu bydd disgwyl i chi reoli nifer o dasgau gweinyddol yn cynnwys

cwblhau dogfennaeth hanfodol fel cofrestrau, cynlluniau gwaith ac adroddiadau myfyrwyr. Gall y

swydd hefyd gynnwys cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio a threfnu digwyddiadau arbenig sy'n

gysylltiedig â'r Maes Busnes. Os ydych wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd ddysgu gadarnhaol ac i

helpu myfyrwyr i gyflawni ei gwir botensial yna byddem yn eich annog i wneud cais.

Gofynion Hanfodol

• Cymhwyster addysgu Lefel 5 o leiaf (e.e. Tystysgrif Addysg/TAR) neu fod yn gweithio tuag at

gymhwyster addysgu Lefel 5.

• Addysg hyd at gymhwyster Lefel 3 o leiaf yn y ddisgyblaeth berthnasol.

• Dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol a sut y byddwch

chi'n sicrhau bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig