MANYLION
  • Lleoliad: Cyfreithiol,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £32,304 - £49,934
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Awst, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Camu at Cambria CC/2933

Coleg Cambria

Cyflog: £32,304 - £49,934

Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd Camu at Cambria

Lleoliad: Iâl

Math o Gontract: Cyfnod Penodol - 30/06/2026 Llawn amser

Cyflog: £32,304 - £49,934 Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o gynnydd blaenorol i'r Raddfa Dâl Uwch.

Mae Coleg Cambria yn edrych am Ddarlithydd i gyflwyno ein rhaglen Camu at Cambria ar ein safle Iâl. Fel Darlithydd Camu at Cambria byddwch yn gyfrifol am gyflwyno rhaglen gyfoethogi ragarweiniol i ddysgwyr lefel mynediad. Byddwch hefyd yn cyflwyno rhaglen diwtorial bersonol i ddatblygu hyder dysgwyr, sgiliau cyfathrebu wrth eu helpu nhw i oresgyn unrhyw rwystrau unigol i ddysgu. Bydd hefyd yn gyfrifoldeb arnoch chi i ddarparu cymorth parhaus i gynyddu ymgysylltiad a dilyniant i ddysgwyr sydd â rhwystrau i ddysgu.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ymrwymiad amlwg at lwyddiant myfyrwyr a'r angerdd at addysgu a dysgu.

Gofynion Hanfodol
  • Cymhwyster addysgu Lefel 5 o leiaf (e.e. Tystysgrif Addysg/TAR) neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster addysgu Lefel 5.
  • Addysg at gymhwyster Lefel 4 o leiaf.
  • Gallu dangos dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol a sut y byddwch chi'n sicrhau bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn.
  • Gwybodaeth am yr ystod eang o anghenion dysgu a sut i ddiwallu'r anghenion hyn mewn amgylchedd dysgu.
  • Profiad o addysgu a helpu pobl ifanc gyda rhwystrau sylweddol i ddysgu.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig