MANYLION
  • Lleoliad: Penarth, Vale of Glamorgan, CF64 2TP
  • Testun: Hyfforddwr Ymddygiad a Chynhwysiant
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £25,082 - £28,374
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 14 Chwefror, 2023 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Gweithiwr Cymorth Ymddygiad - Ysgol Y Deri

Gweithiwr Cymorth Ymddygiad - Ysgol Y Deri

Ysgol Y Deri
Amdanom ni
Mae Derw Newydd yn cefnogi dysgwyr 3-16 oed sydd ag anawsterau iechyd cymdeithasol, emosiynol a/neu feddyliol. Mae Derw Newydd yn rhan o Ysgol Arbennig Ysgol y Deri. Yn wreiddiol, bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn Fferm Ymddiriedolaeth Amelia a Cowbridge Court House, sy'n symud i ddarpariaeth bwrpasol yn y Barri.

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm gwych. Rydyn ni'n credu na ddylai unrhyw un golli ysgol.
Rydym yn chwilio am rywun sydd wir eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc; rhywun sy'n fodlon bod y gwahaniaeth. Rhywun sydd eisiau helpu ein myfyrwyr i gyflawni eu potensial trwy roi cyfle iddynt newid; rhywun sy'n gallu helpu ein disgyblion i ymgysylltu a mwynhau profiadau cadarnhaol bywyd.


Am y Rôl
Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): YYD/SW

Manylion am gyflog: Gradd 7, £26,446 - £30,095 y.f. pro rata + Lwfans AAA

Diwrnodau / Oriau Gwaith: 37 awr yn ystod y tymor yn unig

Parhaol

Disgrifiad:
Dymuna'r corff llywodraethol benodi gweithiwr cymorth ymddygiad deinamig, gofalgar ac egnïol i ymuno â'n tîm anhygoel.
O dan gyfarwyddyd Pennaeth Ysgol Y Deri, bydd deiliad y swydd yn rhoi cyngor a chefnogaeth arbenigol i ysgolion er mwyn sicrhau bod anghenion corfforol, cymdeithasol ac emosiynol y bobl ifanc yn cael eu diwallu'n effeithiol.

Bydd deiliad y swydd yn aelod gweithgar o ddarpariaethau ysgol y deri yn gweithio ar draws lleoliadau'r Fro ac yn darparu dulliau atal a chymorth cynnar cynradd yn ogystal â dangos sut i weithio'n effeithiol â phobl ifanc. Mae'r rôl yn cynnwys cofnodi, gwerthuso a myfyrio ar bob agwedd ar ymddygiad myfyrwyr gydag adborth i Derw Newydd.

Bydd yr ymgeisydd yn gallu ail-ysgogi myfyrwyr a'u cefnogi wrth bontio i'r ysgol ac allan o'r ysgol. Bydd yn rhoi cymorth, arweiniad a hyfforddiant ymarferol sy’n ymwneud â rheoli ymddygiad a strategaethau cysylltiedig i gefnogi dysgu myfyrwyr.
Fel ysgol mae’r ffocws ar newid ysbrydoledig o fewn ein disgyblion i sicrhau eu dyfodol llewyrchus.


Amdanat ti
Byddai’r swydd hon yn addas i rywun sy’n hoffi gweithio gyda phlant a phobl ifanc, rhywun sydd wrth ei fodd yn rhannu gwybodaeth ac yn eu cefnogi i ffynnu.
Rhaid i’r ymgeisydd fod â’r gallu i sefydlu a meithrin perthnasau priodol ac effeithiol gyda phlant a phobl ifanc. Mae gofyn iddo fod yn ddiymhongar, ond eto'n hyderus, yn frwdfrydig ac yn deall yr angen am ffiniau.
Bydd gan ddeiliad y swydd hanes cryf iawn o weithio'n llwyddiannus gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion iechyd cymdeithasol, emosiynol a meddyliol difrifol.
Rydym yn chwilio am rywun sydd wir eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc; rhywun sy'n fodlon bod y gwahaniaeth.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n cydnabod pwysigrwydd cefnogaeth uchel a her uchel. Bydd ffocws ar chwalu rhwystrau sy'n llesteirio mynediad at ddysgu.
Mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd gefnogi myfyrwyr i ddatblygu strategaethau ymdopi a meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol. Y rhinweddau sydd eu hangen yw'r gallu i ddeall eich cyflwr emosiynol eich hun / rheoleiddio personol a bod yn bwyllog dan bwysau. Mae sgiliau gwrando da yn hanfodol.
Dyma gyfle cyffrous i'r ymgeiswyr cywir ymuno ag ysgol lwyddiannus sy'n ehangu'n gyflym.

Oes angen gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd?: Manwl

Angen cofrestru gyda’r CGA: Mae'n ofyniad statudol bod yn rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y swyddi hyn gael eu cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn y gallant ddechrau gweithio mewn ysgol. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru, mae gwybodaeth bellach, gan gynnwys sut i gofrestru, ar gael yn www.ewc.wales

Sut i wneud cais
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Mrs Viv Burbidge Smith: vburbidgesmith@yyd.org.uk

Dychwelyd ceisiadau e-bost at: vburbidgesmith@yyd.org.uk