MANYLION
  • Lleoliad: Merthyr Tydfil, Merthyr Tydfil, CF47 8AN
  • Testun: Gweithiwr Ieuenctid
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £19,698 - £19,698
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Gweithiwr Ieuenctid (Rhan amser) (16 awr)

Gweithiwr Ieuenctid (Rhan amser) (16 awr)

Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
RE-1001

Pwrpas y Swydd

Cynllunio a darparu gweithgareddau addas sydd yn ymateb i anghenion addysgol a datblygiadol pobl ifanc nad sydd yn mynychu gwasanaethau ieuenctid cymunedol presennol yn y Fwrdeistref Sirol.

Bod yn gyfrifol am ddarparu maes/arbenigedd penodol mewn gwaith ieuenctid a chymunedol, mewn partneriaeth â chydweithwyr er mwyn sicrhau darpariaeth effeithiol ledled y fwrdeistref.


Prif Dasgau

Cyflenwi rhaglen gytunedig ynghylch dysgu anffurfiol mewn amrywiaeth o leoliadau i unigolion neu grwpiau o blant a phobl ifanc a ble y bo’n bosibl darparu cyfle i achredu’r hyn maen nhw’n eu cyflawni.

Darparu amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer Pobl Ifanc gan gynnwys chwaraeon a gweithgareddau corfforol, gemau tîm a heriau a gweithgareddau celf a chrefft.

Cynorthwyo i ddatblygu rhaglenni a fydd yn darparu cefnogaeth ychwanegol i bobl ifanc a fydd yn gwella eu cyfleoedd o oresgyn trallod a allai amharu ar eu datblygiad personol a’u cyflawniad addysgol.

Cynorthwyo wrth gefnogi ysgolion i gyflenwi rhaglenni dysgu penodol sy’n sefyll ar y fframwaith cymhwyster i bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddatgysylltiedig oddi wrth addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth (NEET) e.e
Gwobr Dug Caeredin, YAA

Cynorthwyo i ddarparu Cynllun Gwobr Dug Caeredin, gan gynnwys hyfforddi hirdeithiau ac asesu.

Gweithio â phlant a phobl ifanc o grwpiau a dangynrychiolir i’w cefnogi a’u galluogi drwy amrywiaeth o gyfleoedd personol, cymdeithasol a dysgu i gael yr hyder i integreiddio i mewn i ddarpariaethau a digwyddiadau’r brif ffrwd.

Defnyddio offer priodol er mwyn cynllunio’n effeithiol, diwallu anghenion nodau’r sefydliad a mesur effaith gaiff yr ymyrraeth honno ar ddatblygiad cymdeithasol a phersonol pobl ifanc.

Cael adborth oddi wrth bobl ifanc a phartneriaid er mwyn adlewyrchu ar ymarfer, adolygiad a gwerthuso gan felly wella perfformiad yn barhaus.

Sicrhau fod pobl ifanc yn cael eu cynnwys a’u hymgynghori wrth gynllunio’r rhaglen a’u bod yn ymgysylltiedig â’r broses o wneud penderfyniadau.

Galluogi pobl ifanc i sefydlu a chynnal cysylltiadau â fforymau yn enwedig Fforwm Ieuenctid Merthyr Tudful, cynghorau ysgolion ac annog Pobl Ifanc i gael eu cynrychioli ar Fforymau Cenedlaethol.

Cynorthwyo pobl ifanc i gael mynediad at wybodaeth o’r amrywiaeth o wasanaethau gwybodaeth a chefnogaeth sydd ar gael iddynt.

Gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau ac adrannau eraill i ddarparu cyfleoedd i wella datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgiadol pobl ifanc. Sicrhau bod defnydd effeithiol a da o adnoddau yn cael ei wneud yn y gymuned.

Cynorthwyo i ddarparu adroddiadau rheolaidd a data ystadegol am ddatblygiad a chynnydd y ddarpariaeth a’r mewnbwn data ar y system MIS.

Cynorthwyo wrth ddynodi adnoddau perthnasol i gefnogi cyflenwi cwricwlwm cytbwys am gyfleoedd a gweithgareddau dysgu, oddi fewn i’r adnoddau cytunedig neu’r adnoddau sydd ar gael.

Sicrhau fod arferion gwaith yn ddiogel, gan gadw at bolisi, gweithdrefnau ac arferion diogelu iechyd a diogelwch CBSMT.

Cwblhau’r prosesau a’r gweithdrefnau gweinyddol angenrheidiol a gweithio’n effeithiol tuag at ddyddiadau cau a rhoi adborth a mynychu’r holl gyfarfodydd perthnasol.

Cyfranogi’n bersonol o leiaf dwywaith y flwyddyn mewn cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus.

Cwblhau unrhyw dasg arall fel yr ystyrir sy’n briodol i rôl ran amser gweithiwr ieuenctid, yn ôl cyfarwyddyd yr Uwch Weithiwr Ieuenctid a’r Swyddog Cymunedol.