Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Merthyr Tydfil County Borough Council Youth Service
Youth Organisation
EIN CYFEIRIADAU:
  • Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
  • Merthyr Tydfil
  • Merthyr Tydfil
  • CF47 8AN
Amdanom Ni
Mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 a 25oed. Mae'n cynnig mynediad agored a chyffredinol i ieuenctid ynghyd â nifer o raglenni i'r rhai sydd angen cymorth ychwanegol ar eu taith i fod yn oedolion all gyfrannu'n gadarnhaol i'w cymunedau.
Dyma'r ddarpariaeth gyffredinol: dau glwb ieuenctid mynediad agored a reolir gan yr Awdurdod Lleol, tîm o weithwyr ieuenctid ar-y-stryd, a chlybiau ieuenctid mynediad agored a gomisiynwyd gan y trydydd sector gan gynnwys darpariaeth Gymraeg. Mae ein clybiau ieuenctid yn rhoi cyfle i bobl ifanc gyrchu cyfleoedd dysgu anffurfiol a "heb fod yn ffurfiol", gan gynnwys gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol, mabolgampol a chorfforol, yn ogystal â gwobrau megis Gwobr Dug Caeredin a Gwobr Cyflawniad Ieuenctid.
Mae'r rhaglenni targededig yn cefnogi pobl ifanc: a allai fod yn NEET neu mewn perygl o ddod yn NEET wrth adael ysgol neu goleg; a allai brofi anawsterau llesiant emosiynol a meddyliol; neu a allai fod mewn perygl o ddod yn ddigartref. Maen nhw hefyd yn cefnogi pobl ifanc mewn teuluoedd ag anghenion lluosog.
Rydyn ni'n cynnig cymwysterau proffesiynol i'n staff a'n partneriaid i weithio ac arwain yn y maes ieuenctid, ynghyd â chyfleoedd eraill i ddatblygu'n broffesiynol