Cyngor Sir Benfro

Pembrokeshire County Council
Local Authority (LA)
EIN CYFEIRIADAU:
  • Cyngor Sir Benfro
  • Neuadd Sirol
  • Hwllfordd
  • Pembrokeshire
  • SA61 1TP
Amdanom Ni
Mae gan Gyngor Sir Penfro boblogaeth o ychydig dros 125,000 o bobl. Mae'r awdurdod lleol yn cynnal pum ysgol uwchradd 11-18 (un ohonynt yn ysgol cyfrwng Cymraeg), un ysgol cyfrwng Cymraeg 3-18, un ysgol 3-16, un ysgol 11-16, 52 o ysgolion cynradd, un ysgol arbennig, ac un Uned Cyfeirio Disgyblion. Mae Sir Benfro yn rhan o'r consortiwm addysg rhanbarthol Partneriaeth - y ddau awdurdod arall yw Abertawe a Sir Gaerfyrddin.
Mae rhai ffeithiau allweddol sy'n gysylltiedig â'n carfan disgyblion yn Sir Benfro fel a ganlyn
• Dros gyfartaledd tair blynedd, mae 16.2% o ddisgyblion rhwng 5 a 15 oed yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ychydig yn llai na'r cyfartaledd yng Nghymru o 17.8%
• Mae 12.1% o ddisgyblion 5 oed a hŷn yn rhugl yn y Gymraeg, sy'n llai na'r cyfartaledd yng Nghymru o 16.2%
• Mae 5.6% o ddisgyblion 5 oed a hŷn yn dod o leiafrifoedd ethnig, sy'n is na'r cyfartaledd yng Nghymru o 11.4%.
• Mae gan 24.3% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig, sy'n uwch na'r cyfartaledd yng Nghymru o 22.2%
• Roedd yr awdurdod lleol yn gofalu am 64 o blant ym mhob 10,000 yn 2019, sy'n llai na'r cyfartaledd yng Nghymru