MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Llywodraethwr Ysgol (Rôl Gwirfoddolwr)

Cyngor Sir Benfro
Mae hwn yn gyfle cyffrous i roi yn ôl i'r gymuned addysg yn eich ardal leol.

Mae llawer math o bobl yn dod yn llywodraethwyr ysgolion. Mae ganddynt oll reswm arbennig dros wasanaethu ar gorff llywodraethu. Yn Sir Benfro, rydym yn chwilio am bobl sydd ...
  • yn gofalu am addysgu, dysgu a phlant
  • eisiau bod yn rhan o dîm sy'n derbyn cyfrifoldeb am bopeth y mae ysgol yn ei wneud
  • yn barod i ddysgu
  • yn gallu gweithredu fel ffrind beirniadol sy'n cefnogi'r ysgol ond sydd hefyd yn herio ac yn gofyn cwestiynau am sut mae'r ysgol yn gweithio a'r safonau y mae'n eu cyflawni
  • yn gallu gweithredu fel cyswllt rhwng rhieni, y gymuned leol, yr awdurdod lleol a'r ysgol.

Os yw hynny'n swnio fel chi, byddem wrth ein boddau'n clywed gennych.

Rheoleiddir cyfansoddiad corff llywodraethu gan Lywodraeth Cymru ac mae'n amrywio yn ôl categori'r ysgol a maint yr ysgol. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â diddordeb penodol mewn gwasanaethu fel llywodraethwr cymunedol neu lywodraethwr yr awdurdod lleol.

Llywodraethwyr cymunedol

Penodir y llywodraethwyr hyn gan y corff llywodraethu. Mae aelodau'r gymuned yn dod â'u profiad neu sgiliau eu hunain i'r corff llywodraethu a gallant weithredu fel cyswllt âr gymuned y mae'r ysgol yn ei gwasanaethu. Mae llywodraethwyr cymunedol fel arfer yn byw neu'n gweithio yng nghymuned ardal yr ysgol ac wedi ymrwymo i lywodraeth dda a llwyddiant yr ysgol.

Llywodraethwyr awdurdod lleol

Penodir llywodraethwyr awdurdod lleol gan yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol. Gall llywodraethwyr awdurdod lleol gyflwyno barn yr awdurdod lleol ond nid ydynt yn ddirprwyon yr awdurdod lleol ac ni all yr awdurdod lleol eu gorfodi i gymryd safbwynt penodol.

Sgiliau a phrofiad

Nod yr awdurdod lleol yw penodi llywodraethwyr sydd â gwybodaeth, profiad a sgiliau penodol i sicrhau bod gan gyrff llywodraethu fynediad at set sgiliau eang yn gyffredinol. Rhai o'r meysydd allweddol y mae gennym ddiddordeb ynddynt yw:

  • Her ac atebolrwydd
  • Rheolaeth ariannol
  • Iechyd a diogelwch
  • Adnoddau dynol a recriwtio
  • Dehongli data
  • Arweinyddiaeth
  • Monitro a gwerthuso
  • Cynllunio strategol

Ymrwymiad amser

Mae'n rhaid i gorff llywodraethu, yn ôl y gyfraith, gyfarfod o leiaf unwaith y tymor. Mae'r cyfarfod hwn yn debygol o gymryd rhwng awr a dwy awr. Mae rhai ysgolion yn cael eu cyfarfodydd ar ddiwedd y diwrnod ysgol, eraill yn gynnar gyda'r nos. O bryd i'w gilydd, efallai y bydd angen i gorff llywodraethu gyfarfod yn amlach na hyn. Rydych hefyd yn debygol o fod ar bwyllgor sydd, unwaith eto, yn debygol o gyfarfod unwaith y tymor. Rhaid i chi hefyd neilltuo amser i baratoi ar gyfer cyfarfodydd trwy ddarllen gwaith papur ymlaen llaw a dylech hefyd fod yn barod i fynychu digwyddiadau eraill yr ysgol ac, yn achlysurol, i ymweld â'r ysgol yn ystod y diwrnod gwaith, trwy drefniant gyda'r pennaeth. Efallai hefyd, o bryd i'w gilydd, y gofynnir i chi a ydych ar gael i wasanaethu ar bwyllgor statudol i ymdrin â gwahardd disgybl neu fater disgyblu staff.

Mae pob llywodraethwr yn wirfoddolwr di-dâl, felly mae'n bosibl y bydd angen i chi wirio gyda'ch cyflogwr ynghylch cael amser i ffwrdd ar gyfer cyfarfodydd. Mae'n bwysig iawn, yn ogystal âr sgiliau, fod gennych yr amser a'r ymrwymiad i'w rhoi i'r corff llywodraethu. Mae'r corff llywodraethu yn dîm sy'n dibynnu ar bob aelod yn cyfrannu'n llawn.

I drafod rôl llywodraethwr ysgol ymhellach, cysylltwch â:

Gwasanaethau Cefnogi'r Llywodraethwyr

E-bost: GSSadmin@pembrokeshire.gov.uk

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau. r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

• Cysylltwch âr Tîm Recriwtio cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein neu os oes arnoch angen cymorth drwy anfon e-bost at recruit@pembrokeshire.gov.uk.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.