MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa Gyflog o fewn: L10 £63,290 - L16 £73,426
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 01 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Gyflog o fewn: L10 £63,290 - L16 £73,426
Pennaeth Ysgol Hafan y MôrMae Llywodraethwyr Hafan y Môr yn dymuno penodi pennaeth brwdfrydig ac ysbrydoledig sydd yn meddu ar rinweddau rhyngbersonol cryf i arwain a pharhau i ddatblygu'r ddarpariaeth Addysg Gymraeg ar gyfer disgyblion rhwng 3-11 oed yn Ninbych y Pysgod a'r ardal gyfagos. Mae hyn yn gyfle i arwain ysgol arloesol sy'n darparu addysg Gymraeg o ansawdd uchel gan sicrhau ei datblygiad pellach i'r dyfodol.
Mae'r Corff Llywodraethol yn awyddus i benodi Pennaeth -
- A fydd yn datblygu, hyrwyddo a gweithredu gweledigaeth gadarn ar gyfer datblygiad yr ysgol mewn partneriaeth â'r disgyblion, staff, y llywodraethwyr, y rhieni, y gymuned ehangach a'r awdurdod lleol;
- Sy'n rheolwr ac yn arweinydd arloesol a deallus, yn meddu ar y profiad i ddatblygu a chefnogi staff, rheoli cyllideb a gweithio gyda chorff llywodraethu;
- Bydd yn sicrhau profiadau dysgu eithriadol o'r radd flaenaf i'r holl ddisgyblion
- Sy'n gallu cynllunio'n strategol i sicrhau gwelliant parhaus a dilyniant dysgu ar draws ystod oed yr ysgol, gyda ffocws clir ar wella deilliannau a lles disgyblion gan gyrraedd rhagoriaeth
- Yn gyfathrebwr rhagorol sy'n gallu herio, ysbrydoli ac ysgogi eraill i ddysgu a chyflawni
- Fydd yn llysgenad i hyrwyddo diwylliant Cymru a'r Gymraeg;
Sefydlwyd Ysgol Hafan y Môr fel yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyntaf yn Ne Sir Benfro ym mis Medi 2016 i ymateb i, a chynyddu'r galw cynyddol am addysg gyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Agorodd yr ysgol ei drysau gyda 112 disgybl ar y gofrestr ac ers hynny mae wedi tyfu i'w gapasiti llawn o 244 disgybl.
Mae darpariaeth yr ysgol yn cynnwys Cylch Meithrin, Clwb Brecwast, Clwb ar ôl Ysgol, grŵp rhieni a babanod/plant bach 'Hafan Bach' a gwersi Cymraeg ar gyfer rhieni fel dull i sicrhau cymorth i'r teuloedd niferus sydd ddim yn siarad Cymraeg.
Mae gan yr ysgol dîm o staff brwdfrydig a theyrngar sy'n sicrhau bod Ysgol Hafan y Môr yn ysgol â gwir natur deuluol ag ethos hapus ble adnabyddir a gwerthfawrogir bob plentyn. Bydd y pennaeth newydd yn derbyn cefnogaeth gref gan gorff llywodraethu profiadol a diwyd i sicrhau y bydd yr ysgol yn parhau i fynd o nerth i nerth.
Bydd yn rhaid i unrhyw ymgeisydd nad yw'n bennaeth ar hyn o bryd feddu ar gymhwyster CPCP ar yr adeg benodi.
Am rhagor o fanylion ac i drefnu ymweliad cysylltwch ag Ymgynghorydd Gwella'r Ysgol Mrs Amanda Lawrence ar lawrencea9@hwbcymru.net
Amrediad Cyflog: L 10- L 16
Dyddiad dechrau: Ionawr 1af 2026
Rydym yn disgwyl tynnu'r rhestr fer a chynnal cyfweliadau fel a ganlyn:
Dyddiad cau: Medi 1af 2025 (ganol nos)
Rhestr fer: Medi'r 3ydd 2025
Cyfweliad: Medi'r 18fed a'r 19eg
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.