MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: Grade 3 Casual Rate - £13.28ph (£11.79 basic rate + £1.49 holiday rate)
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Clerc Cofnodion – Gwasanaethau Cefnogi Llywodraethwyr

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Grade 3 Casual Rate - £13.28ph (£11.79 basic rate + £1.49 holiday rate)

**MAE'R SWYDD HON WEDI'I CHYFYNGU I YMGEISWYR MEWNOL YN UNIG**

Cyflwyniad

Nod y rôl hon yw cefnogi cyrff llywodraethu sy'n prynu cytundeb lefel gwasanaeth Gwasanaeth Cefnogi Llywodraethwyr trwy gymryd nodiadau mewn cyfarfodydd a chynhyrchu cofnod ffurfiol ar ffurf cofnodion. Mae'r clerc cofnodion yn gymorth allweddol i'r tîm Gwasanaeth Cefnogi Llywodraethwyr barhau i gydymffurfio â gofynion statudol. Drwy ymuno â'r tîm byddwch yn helpu i sicrhau bod yr awdurdod lleol yn bodloni ei rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu gwasanaeth clercio effeithiol i gyrff llywodraethu.

Cyfrifoldebau clerc cofnodion

  • Mynychu cyfarfodydd cyrff llywodraethu penodedig a chymryd nodiadau a chynhyrchu cofnod ffurfiol ar ffurf cofnodion.
  • Cyfleu cyngor a gwybodaeth i gyrff llywodraethu a phwyllgorau yn unol â'r hyn a ddarperir gan aelodau'r tîm Gwasanaethau Cefnogi Llywodraethwyr.
  • Darparu adborth amserol i reolwr y gwasanaeth ar unrhyw faterion brys sy'n codi o gyfarfodydd cyrff llywodraethu.
  • Ymgymryd â hyfforddiant yn ôl yr angen i ddiwallu anghenion y rôl a'r tîm.

Cyfarfodydd cyrff llywodraethu

Cynhelir y rhan fwyaf o gyfarfodydd cyrff llywodraethu ar ddiwedd diwrnod gwaith yr ysgol, felly mae'n rhaid i chi fod ar gael ar yr adeg hon a chael eich cerbyd eich hun i deithio i gyfarfodydd mewn ysgolion. Byddwch yn teipio cofnodion gartref a bydd angen mynediad i liniadur a'r rhyngrwyd. Bydd angen iaith a chystrawen gywir ar gyfer y cofnodion terfynol. Rhoddir hyfforddiant llawn ar yr hyn sydd ei angen, ond mae sgiliau iaith a TG/bysellfwrdd da yn hanfodol.

Tâl a threuliau

Cyflog clerc cofnodion achlysurol yw gradd 3 a thua £13.28 yr awr. Gellir hawlio costau teithio hefyd. Mae angen llenwi taflen amser.

Sut ydw i'n mynegi diddordeb?

Cwblhewch y ffurflen gais a'i hanfon i david.Thompson@pembrokeshire.gov.uk

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.