MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Prosiect y Drindod - Gweithiwr Chwarae Gwirfoddol

Cyngor Sir Benfro
Swydd achlysurol Gweithiwr Chwarae yw hon.

Byddwch yn cynorthwyo'r prosiect i gydlynu ac arwain gweithgareddau a chefnogaeth seiliedig ar chwarae i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol mewn un o ddau glwb yn Sir Benfro. Byddwch wedi'ch lleoli yn Hwlffordd a Doc Penfro.

Bydd y Cydgysylltydd Gwaith Chwarae yn cyflwyno sesiynau deinamig sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n seiliedig ar chwarae lle caiff anghenion pob unigolyn eu diwallu, a lle caiff perthnasoedd cadarnhaol eu datblygu. Cefnogir hyn yn helaeth gan ein holl wirfoddolwyr.

Bydd eich agwedd tuag at anghenion pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn sensitif, yn wybodus ac yn gyson, a'ch ymagwedd tuag at waith tîm, arweinyddiaeth a chyfathrebu bob amser yn rhagorol.

Mae angen gwiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Bydd gofyn i chi gael cyfweliad ffôn byr ar gyfer y swydd. Mae pecyn sefydlu llawn a hyfforddiant cynhwysfawr ar gael i bob gwirfoddolwr.

Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon, cysylltwch ag Alys Lewis, Swyddog Cyfleoedd Chwarae Digonol, drwy anfon neges e-bost i alys.lewis@pembrokeshire.gov.uk , i gael rhagor o wybodaeth.

Os ydych chi eisoes yn ddefnyddiwr, gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi i'ch cyfrif cyn dechrau llenwi ffurflen gais.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.