MANYLION
  • Lleoliad: Ystrad Mynach,
  • Testun:
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £0.00 - £10,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Goruchwylio Canol dydd - Ysgol Penalltau

Cynorthwyydd Goruchwylio Canol dydd - Ysgol Penalltau

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cynorthwyydd Goruchwylio Canol dydd - Ysgol Penalltau
Disgrifiad swydd
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Gymraeg Penalltau am benodi Goruchwyliwr Canol Dydd ar gyfer ein hysgol. Mae angen person craff, dibynadwy a phroffesiynol i ymgymryd â'r rôl heriol ond cyffrous hon o fewn yr ysgol.

Mae'r ysgol yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg . Mae'r goruchwylwyr canol dydd yn rhan fawr o'r staff ac yn ganolog i'r ysgol. Mae dull tawel a chyfeillgar yn hanfodol ynghyd â sgiliau cyfathrebu cadarn. Byddai gwybodaeth lafar o'r Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da ac yn mwynhau gweithio gyda phlant. Bydd ganddynt ymrwymiad i wneud amser cinio yn amser diogel, hapus a byddant yn awyddus i gynnwys disgyblion mewn gweithgareddau chwarae.

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Andrea Woods ar 01443 862974 neu ebost: ysgolpenalltau@sch.caerphilly.gov.uk

Gall ymgeiswyr gyflwyno cais trwy Eteach. Dylech chi anfon y rhain i e-bost yr ysgol: ysgolpenalltau@sch.caerphilly.gov.uk

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymroddedig i dalu'r Cyflog Byw. Mae'r swydd hon felly'n gymwys i gael ychwanegiad cyflog.