MANYLION
  • Lleoliad: Y Drenewydd | Newtown , Powys, SY16 1RB
  • Testun: Cydlynydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £26,457 - £33,215
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 07 Ionawr, 2022 9:00 y.b

This job application date has now expired.

Cydlynydd Sgiliau Hanfodol

Cydlynydd Sgiliau Hanfodol

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Mae gennym gyfle gwych i Gydlynydd Sgiliau Hanfodol profiadol ymuno â sefydliad ledled Cymru sydd wedi ymrwymo i wasanaethu poblogaeth oedolion Cymru gyda chyfleoedd ysbrydoledig sy'n newid bywyd. Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, sydd wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau a darparu dysgu o'r ansawdd gorau, gan weithio ar y cyd gyda'i bartneriaid.

Rydym yn chwilio am Gydlynydd Sgiliau Hanfodol medrus iawn sydd yn gallu sbarduno datblygiad darpariaeth a phrosiectau Sgiliau Hanfodol ar draws y sefydliad, gan gynnwys y Rhaglen Sgiliau Hanfodol Hyblyg ar draws Cymru.

Mae hon yn rôl ymarferol, yn gweithredu ar gyflymder, byddwch yn cefnogi a gweithio'n agos gyda tiwtoriaid Sgiliau Hanfodol a Thimau Cyflenwi Rhanbarthol a Chenedlaethol i sefydlu dulliau priodol ar gyfer rhannu arferion gorau ac i ddatblygu a chynyddu'r ddarpariaeth Sgiliau Hanfodol.


JOB REQUIREMENTS
Byddwch yn gymwys i gymhwyster lefel TAR neu Cert Ed, ynghŷd â Thystysgrif Lefel 3 Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol a Gwobr Aseswr Lefel 4 neu ragflaenydd. Bydd gennych brofiad o weithio yn y gymuned ac o raglenni dysgu ar-lein / cyfunol, a gwybodaeth am ddarpariaeth a darparu Sgiliau Hanfodol.

Byddwch yn dod â sgiliau cyfathrebu, rhyngbersonol a Digidol rhagorol, a gwybodaeth am gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ac am faterion cyfredol ym maes addysg oedolion yng Nghymru. Bydd gennych brofiad o gydlynu rhaglenni yn llwyddiannus, sgiliau trefnu a chydlynu rhagorol, a gallu gweithio i derfynau amser tynn. Byddai'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn fantais ond nid yn hanfodol.

Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn fod cael gweithlu amrywiol ar bob lefel yn caniatáu i ni gynrychioli'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Mae persbectif a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i'n llwyddiant ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir sydd gyda’r profiad a'r sgiliau anghenrheidiol i gyflawni'r rôl hon.