MANYLION
  • Lleoliad: Merthyr Tydfil, Merthyr Tydfil, CF47 8AN
  • Testun: Swyddog Ieuenctid
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 01 December, 2021
  • Dyddiad Gorffen: 31 October, 2022
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,741 - £29,577
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 02 Tachwedd, 2021 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Swyddog y Rhaglen Ysbrydoli i Gyflawni (12A)

Swyddog y Rhaglen Ysbrydoli i Gyflawni (12A)

Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Bydd y Swyddog I2A yn rhan o weithrediadau’r Rhaglen YiG ac yn gweithio ochr yn ochr â’r Swyddog YiG (I2W) a’r Tîm Cyflawni ym Merthyr Tudful. Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb arweiniol am gydlynu a datblygu ymgysylltiad. Bydd hefyd yn gyfrifol am reoli’r modd y darperir rhaglenni a gwasanaethau hyfforddi pwrpasol ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 16 oed sydd â’r perygl mwyaf o beidio â chymryd rhan mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Gwneir hynny trwy ddefnyddio Pecyn Cymorth Adnabod Cynnar yr Awdurdodau Lleol, Model 5 Haen Gyrfa Cymru a’r Offeryn Proffilio Bregusrwydd.

Mae Cymraeg Iaith Lefel 1 yn hanfodol ar gyfer pob ymgeisydd allanol a rhaid eich bod chi’n gallu dangos tystiolaeth o hynny cyn cael eich penodi. Am wybodaeth bellach am sut i gwblhau’r cwrs hwn ewch i:
https://learnwelsj.cymru/
Gwnewch gais ar-lein - www.merthyr.gov.uk
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725199. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 2/11/2021 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau oddi wrth siaradwyr Cymraeg. Gellir cyflwyno ffurflenni cais yn y Gymraeg a ni chaiff unrhyw gais a gaiff ei gwblhau yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol mewn unrhyw ffordd na’r rheini a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.