MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Rheolwr Cwricwlwm ardal
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 24 October, 2021
  • Dyddiad Gorffen: 22 October, 2023
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £47,400 - £51,510
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Rheolwr Maes Dysgu Busnes a Thechnoleg (RhMD)

Rheolwr Maes Dysgu Busnes a Thechnoleg (RhMD)

Coleg Gwyr Abertawe
Ffocws y Swydd
Darparu arweiniad effeithiol i’r meysydd dysgu SBA a Chymorth Dysgu, trwy roi cyfarwyddyd clir i staff, gan alluogi, ysbrydoli, ysgogi a chefnogi staff i ddarparu addysg o’r safon uchaf.
Bod yn gyfrifol am ddatblygiadau a gweithrediadau sy’n ymwneud â’r ddeddf ADY a weithredu fel arweinydd ADY y Coleg.
Bod yn gyfrifol am reoli'r Maes Dysgu o ran cyfrifoldebau datganoledig ar gyfer y cwricwlwm, ansawdd, cyllidebu, lleoli staff, rheoli perfformiad a rheoli dysgwyr.
Bod yn gyfrifol am ansawdd yr addysgu, y dysgu a'r deilliannau o fewn y Maes Dysgu.
Bod yn gyfrifol am sefydlu dull cyson o reoli dysgwyr.

JOB REQUIREMENTS
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Reolwr Maes Dysgu ym maes Busnes a Thechnoleg. Yn gyfrifol am gynllunio a rheoli’r maes dysgu, bydd dyletswyddau’r rôl yn cynnwys; cynllunio a chyflwyno’r cwricwlwm, sicrhau ansawdd, datblygu staff, rheoli dysgwyr a chyllidebu. Bydd y Rheolwr Maes Dysgu Cynorthwyol yn eich helpu i arwain tîm o staff fel y gallwch sicrhau bod y safonau ansawdd uchaf posib yn cael eu hymgorffori yn y ddarpariaeth, yn ogystal â gwella safonau ac ymateb i anghenion dysgwyr.

Mae’r Maes Dysgu yn un eang iawn, ac mae’r cwricwlwm yn cynnwys darpariaeth i fyfyrwyr lefelau 1-6. Mae darpariaeth Dysgu Seiliedig ar Waith a chyrsiau Cyfrifeg yn rhan o’r ddarpariaeth. Mae staff yn ymrwymedig i sicrhau bod cymaint o ddysgwyr â phosib yn y maes hwn yn cyflawni eu potensial llawn, trwy weithredu dulliau addysgu arloesol sy’n arwain at ganlyniadau rhagorol.

Dylai ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu codi safonau a darparu arweinyddiaeth tîm mewn rôl cydlynydd cwrs/arweinydd cwricwlwm.

Mae profiad o weithio mewn sector galwedigaethol/academaidd a hanes o feithrin perthynas waith dda gyda chyflogwyr a rhanddeiliaid eraill ym maes Busnes a Thechnoleg yn ddymunol.

Dyma rôl sy’n ymwneud â darparu cwricwlwm a bydd gofyn i chi rheoli timau ledled sawl safle, felly bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyblyg ac yn drefnus iawn.

Bydd gennych Gymhwyster Addysgu cydnabyddedig (TAR neu’r cyfwerth) ynghyd â gradd berthnasol neu gymhwyster cyfatebol.

Bydd gennych gymhwyster Arwain a Rheoli, neu byddwch yn barod i weithio tuag at ennill y cymhwyster hwn.