Amdanom Ni
Am y Coleg
Cenhadaeth Coleg Gŵyr Abertawe yw ysbrydoli a helpu ein dysgwyr i gyflawni eu potensial trwy ddarparu addysg a hyfforddiant o'r safon uchaf.
Mae'r Coleg yn sefydliad Addysg Bellach a grëwyd yn 2010 yn dilyn uno Coleg Abertawe a Choleg Gorseinon. Diolch i'n staff hynod ymroddedig a thalentog, gallwn ddarparu cyfleoedd dysgu a hyfforddi rhagorol i bobl ifanc, oedolion a chyflogwyr ar draws de-orllewin Cymru.
Rydym yn cynnig dros 40 o bynciau Safon Uwch a 40 o bynciau galwedigaethol ar amrywiaeth o lefelau hyd at, ac yn cynnwys, Addysg Uwch, sy'n cyd-fynd â gwybodaeth a lefelau sgiliau presennol ein myfyrwyr. Yn ogystal â hyn, mae gennym un o'r enwau gorau am ddysgu ac addysgu o safon uchel, nid yn unig yn Abertawe ond ar draws Cymru gyfan.
Mae gennym dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser ar draws Abertawe a'r siroedd cyfagos. Rydym yn gweithredu o chwe lleoliad ar draws Abertawe gan gynnwys campysau yn Nhycoch, Sgeti a Gorseinon.