MANYLION
  • Lleoliad: Yale, Wrexham, LL12 7AB
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £22,658 - £26,739
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 08 Mawrth, 2023 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Anogwr Cynnydd

Anogwr Cynnydd

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y swydd: Anogwr Cynnydd

Lleoliad: Iâl, gyda’r posibilrwydd o deithio i safleoedd eraill y coleg

Math o Gontract: Llawn amser, Parhaol

Cyflog: £22,658 - £26,739 yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol.

Mae Coleg Cambria yn chwilio am Anogwr Cynnydd i ymuno â’n tîm.

Fel Anogwr Cynnydd yng Ngholeg Cambria byddwch yn cydweithio gyda thîm o Anogwyr Cynnydd, y tîm cwricwlwm ehangach a gwasanaethau cymorth y coleg i sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn cael y profiad dysgu gorau posibl. Bydd y swydd yn cynorthwyo grwpiau o ddysgwyr yn ystod eu sesiynau cynnydd wythnosol ar yr amserlen a thu hwnt.

Byddwch yn gweithio gyda baich achosion dysgwyr i’w helpu nhw i feithrin strategaethau priodol fel y gallant barhau i gymryd rhan mewn dysgu, a'u helpu i ddod yn wydn, yn ddyfeisgar, a’u bod yn datblygu awydd i lwyddo ac am ddilyniant.

Bydd Anogwyr Cynnydd yng Ngholeg Cambria, ynghyd â’r tîm cwricwlwm ehangach, yn monitro presenoldeb, gosod targedau, cysylltu â rhieni a gofalwyr a gweithredu fel eiriolwr y dysgwyr wrth ddelio ag asiantaethau mewnol ac allanol. Byddwch hefyd yn cefnogi eu llesiant, yn hybu iechyd meddwl cadarnhaol, ac yn eu helpu i wneud y dewisiadau bywyd cywir.

Os ydych chi'n angerddol ynghylch trawsnewid bywydau pobl ifanc, nad ydyn nhw efallai wedi cael y profiad gorau mewn dysgu neu fywyd, yna hoffem gael clywed gennych chi.

Gofynion Hanfodol

Wedi cael addysg hyd at lefel gradd neu Lefel 3 (ar gyfer pynciau a nodwyd) mewn maes pwnc perthnasol
Mae'n hanfodol bod gennych sgiliau llythrennedd a rhifedd cadarn Lefel 2 neu'n uwch.
Byddwch yn gallu defnyddio rhaglenni MS Office ac yn ddelfrydol rhaglenni Google a defnyddio'r rhyngrwyd.
Bydd disgwyl i chi ddangos brwdfrydedd dros rymuso a galluogi pobl ifanc.
Mae’n hanfodol fod gennych sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog, eich bod yn aelod cadarn o dîm a’ch bod yn dangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu.
Deall ystod anghenion dysgwyr mewn lleoliad addysg
Gallu dangos profiad o annog a mentora dysgwyr / pobl ifanc.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.