MANYLION
  • Lleoliad: Yale, Wrexham, LL12 7AB
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £21,899 - £22,775
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 08 Mawrth, 2023 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Goruchwyliwr Gwerthwr Blodau

Goruchwyliwr Gwerthwr Blodau

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth
Teitl y Swydd: Goruchwyliwr Gwerthwr Blodau
Lleoliad: Iâl
Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser
Graddfa Gyflog: £21,899 - £22,775
Mae gennym swydd wag ar gyfer Goruchwyliwr Gwerthwr Blodau yn ein siop flodau ar ein safle Iâl. Byddwch yn gyfrifol am weithrediadau’r siop o ddydd i ddydd ac yn brif oruchwyliwr y ddarpariaeth gan sicrhau gwasanaeth Blodeuwriaeth rhagorol i’r holl gwsmeriaid yn y siop gwerthu blodau masnachol. Byddwch hefyd yn cynnal safonau cyflwyno rhagorol. Byddwch yn ysbrydoli, mentora a hyfforddi myfyrwyr Coleg Cambria sy’n astudio Blodeuwriaeth, wrth weithio yn y siop gwerthu blodau. Byddwch hefyd yn cydweithio â thîm cwricwlwm Blodeuwriaeth y coleg i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael profiad o dueddiadau, technegau ac arddulliau dylunio blodau diweddaraf.
Gofynion Hanfodol
Diploma Lefel 3 mewn Gwerthu Blodau’n broffesiynol
Cymwysterau Lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth)
Sgiliau ardderchog a modern mewn tueddiadau ac arddulliau dylunio blodau
Gwybodaeth ardderchog am dechnegau, prosesau a gweithdrefnau blodeuwriaeth
Meddu ar ehangder a/neu ddyfnder o wybodaeth arbenigol am raglenni Blodeuwriaeth
Gwybodaeth dda am ofal planhigion
Gallu ysgogi, cynorthwyo ac arwain gwaith y tîm, cydlynu ymdrech ac adnoddau yn y busnes gwerthu blodau i gyflawni gwaith dysgu rhagorol a thargedau incwm
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.