MANYLION
  • Lleoliad: Yale, Wrexham, LL12 7AB
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £25,203 - £27,587
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 06 Mawrth, 2023 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Sous Chef

Sous Chef

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…
Teitl y Swydd: Sous Chef
Lleoliad: Iâl
Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser
Cyflog: £25,203 - £27,587
Trosolwg o’r Swydd
Mae gan Goleg Cambria gyfle cyffrous i ymuno â'r tîm yn ein bwyty ar safle Iâl. Rydym yn chwilio am Sous Chef i ymuno â thîm y Gegin. Fel rhan o’ch swydd fel Sous Chef byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo’r Prif Chef i ddarparu profiad bwyta rhagorol ym mwytai newydd y coleg ac oddi ar y safle, sy’n cynnwys bwyd cyfoes sy'n adlewyrchu prosesau coginio ac arddulliau cyflwyno bwyd modern. Byddwch yn cynorthwyo gyda dylunio a chreu bwydlenni unigryw, rhagorol sy’n dymhorol ac wedi’u costio’n effeithiol. Yn ogystal â hyn byddwch yn cynorthwyo i reoli'r gyllideb ar gyfer prynu nwyddau bwyd, gan weithio gyda'r Prif Chef i gynhyrchu cyfrif elw a cholled fisol. Bydd y Sous Chef yn gyfrifol am weithredu fel y Prif Chef yn ôl yr angen.
Mae buddion gweithio yng Ngholeg Cambria yn cynnwys cynlluniau pensiwn ardderchog, cydbwysedd bywyd a gwaith da iawn, 28 diwrnod o wyliau, yn ogystal â gwyliau’r banc a hyd at 5 diwrnod yn ystod gwyliau’r Nadolig gyda bwyty Iâl ar gau yn ystod cyfnod y Nadolig. Bydd hyfforddiant ar gael a llawer o gyfleoedd i symud ymlaen yn eich gyrfa. Hefyd cewch 20% oddi ar fwyd a diod ym Mwyty Iâl.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Fwyty Iâl ar ialrestaurant.co.uk neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol @ialrestaurant.
Gofynion Hanfodol
Sgiliau cegin rhagorol wedi'u cyfuno â sgiliau coginio a phrynu rhagorol
Gwybodaeth ragorol am dueddiadau cyfredol mewn bwyd a gweithgynhyrchu bwyd
Cymhwyster Hylendid Bwyd Sylfaenol
Cymhwyster Hylendid Bwyd Canolradd
NVQ lefel 3 mewn Coginio neu gymhwyster cyfwerth
O leiaf 3 blynedd o weithio mewn amgylchedd cegin ar lefel tebyg.
Profiad o weithrediadau aml safle
Wedi gweithio mewn sefydliadau ardderchog 3 neu 4 seren
Profiad o ymdrin â gofynion myfyrwyr/prentisiaid a staff
Rhaid bod yn barod i weithio nosweithiau a phenwythnosau
Trwydded yrru a’ch cerbyd eich hun
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.