MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Chwaraeon a Hamdden
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £15.00 - £30.00
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 14 Chwefror, 2023 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Diogelu

Darlithydd mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Diogelu

Coleg Gwyr Abertawe
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am ymarferydd rhagorol i gyflwyno cyrsiau Chwaraeon Lefel 2 a 3 a chyrsiau Gwyddor Chwaraeon ar draws ein dau brif gampws, Tycoch a Gorseinon.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyflwyno unedau cyffredinol megis Dulliau Ymchwilio, Materion Cyfoes, Ymchwilio i Fusnes ym maes Chwaraeon a’r Diwydiant Hamdden Egnïol, ynghyd ag unedau ymarferol sy’n ymwneud â chwaraeon a sgiliau. Bydd hyn yn debygol o gynnwys cyfrifoldebau ychwanegol megis gweithredu fel tiwtor.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos ymrwymiad i wellant parhaus, angerdd am arloesi a rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu a gallu i ysbrydoli ac ysgogi dysgwyr o ystod eang o gefndiroedd a lefelau gwahanol.

Fel rhan o dîm ymroddedig, byddwch yn awyddus i gefnogi gweithgareddau cyfoethogi cwricwlaidd ac allgyrsiol ar gyfer dysgwyr, ac yn cydnabod pwysigrwydd dulliau dysgu gweithredol a galwedigaethol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol iawn.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Cyflog: £22,581 - £44,442 y flwyddyn yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.

Buddion:
Hawl i gael gwyliau'r contract cenedlaethol ar sail pro-rata, 5 diwrnod cau pro-rata ac 8 gwyl banc pro-rata, Cynllun Pensiwn Athrawon, amrywiaeth o fanteision i gyflogeion gan gynnwys cynlluniau aberthu cyflog, disgowntiau staff a pharcio am ddim.