MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Tiwtor
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £26,621 - £29,297
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Tiwtor Aseswr - ACS Nwy, Phlymwaith & Ynni Adnewyddadwy

Tiwtor Aseswr - ACS Nwy, Phlymwaith & Ynni Adnewyddadwy

Coleg Gwyr Abertawe
Gellir ystyried y swydd hon fel un amser llawn neu ran-amser.

Cyflog: £26,621 - £29,297 y flwyddyn (37 awr yr wythnos)
Cyflog: £13,310 - £14,648 y flwyddyn (18.5 awr yr wythnos)

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn cynyddu ei dîm Plymwaith. Rydym yn bwriadu recriwtio gweithiwr proffesiynol â chymwysterau addas i ymgymryd â’r gwaith o asesu a thiwtora dysgwyr yn y Sector Gwasanaethau Adeiladu Plymwaith / Gosodiadau Nwy a Chynnal a Chadw ac, weithiau o bosib gwresogi.

Mae rhaglenni yn cynnwys pob agwedd, ond nid yn gyfyngedig i: Nwy Naturiol Domestig a Masnachol, Nwy Petrolewm Hylifedig, Rheoliadau Dwr, Systemau Dwr Poeth Gydag Awyrell a Heb Awyrell ac Effeithlonrwydd Ynni mewn Anheddau Domestig, i alluogi’r diwydiant i wneud gwaith o fewn y Cynlluniau Personau Cymwys perthnasol.

Bydd gennych yr wybodaeth ddiweddaraf o’r diwydiant a chymhwyster Lefel 3 neu’r cyfwerth mewn Plymwaith a Gwresogi, a chymhwyster Gosodiadau Nwy a Chynnal a Chadw neu bwnc cysylltiedig. Bydd gennych dystysgrif ACS Nwy gyfredol ac o leiaf CCN1, CENWAT, CKR1, HTR1, CoNGLPG PD, ac yn ddelfrydol, bydd gennych ddyfarniad TAQA/V1 neu byddwch yn gweithio tuag ato.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Buddion:
28 diwrnod o wyliau, yn ogystal â 5 diwrnod cau ac 8 gwyl banc, Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, amrywiaeth o fanteision i weithwyr gan gynnwys cynlluniau aberthu cyflog, disgowntiau staff a pharcio am ddim.