MANYLION
  • Lleoliad: Jubilee Court, Swansea, SA5 4HB
  • Testun: Tiwtor
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £26,621 - £29,297
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Tiwtor/Asesydd - Gweinyddu Busnes

Tiwtor/Asesydd - Gweinyddu Busnes

Coleg Gwyr Abertawe
ydym yn chwilio am Hyfforddwr Gweinyddu Busnes proffesiynol a phrofiadol i ddarparu hyfforddiant ac asesiadau o ansawdd uchel i ddysgwyr yn y sector Gweinyddu Busnes e.e Prentisiaid Gweinyddu Busnes, Myfyrwyr Lefel 4 ac ati. Bydd gofyn i ymgeiswyr feddu ar y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i reoli cyllidebau ac adnoddau, rheoli prosiectau, datrys problemau a rheoli newid. Bydd gofyn i ymgeiswyr feddu hefyd ar wybodaeth ynghylch cyfathrebu busnes, cyfraith busnes ac arloesi busnes. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos y wybodaeth ymarferol hon ar eu ffurflenni cais. Byddai meddu ar brofiad o weithio o fewn y sector Gweinyddu Meddygol neu Gyfreithiol yn ddymunol iawn, er mwyn diwallu gofynion ein rhanddeiliaid.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymhwyster Lefel 4 (neu uwch) neu brofiad ym maes Busnes a Gweinyddu neu Reoli. Byddai meddu ar ddyfarniad Asesu TAQA neu barodrwydd i sicrhau un yn ddymunol. Mae cymhwyster Lefel 2 (TGAU neu’r cyfwerth) Gradd C neu uwch mewn llythrennedd a rhifedd yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Buddion:
28 diwrnod o wyliau, yn ogystal â 5 diwrnod cau ac 8 gwyl banc, Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, amrywiaeth o fanteision i weithwyr gan gynnwys cynlluniau aberthu cyflog, disgowntiau staff a pharcio am ddim.