MANYLION
  • Lleoliad: Merthyr Tydfil, Merthyr Tydfil, CF47 8AN
  • Testun: Gwaith Ieuenctid
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £19,698 - £19,698
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Gweithiwr Ieuenctid (Rhan Amser)

Gweithiwr Ieuenctid (Rhan Amser)

Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Crynodeb o’r swydd

RE-999
Cynorthwyo wrth gyflenwi rhaglenni cytunedig ar gyfer gwasanaethau ieuenctid a’r gymuned a dysgu anffurfiol i blant a phobl ifanc a chynorthwyo gyda datblygu a gwerthuso’r rhaglenni dysgu hyn gan sicrhau fod ymglymiad pobl ifanc a dysgu yn cael ei fonitro a’i werthuso’n effeithiol.

Nodau tymor byr

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gyflenwi a chynllunio eu rhaglen gwaith ieuenctid i sicrhau fod anghenion pobl ifanc yn cael eu diwallu gan gynnwys partneriaid yn ôl y gofyn. Gallai hyn gynnwys arwain ar faes penodol o gyflenwi cwricwlwm.

Nodau tymor hir

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gefnogi’n weithredol, ymgynghoriad, cyfranogiad a gwerthusiad o’r gwasanaeth a fydd yn gofyn am amrywiaeth eang o dasgau cysylltiedig fel cipio data, monitro a chefnogi cynhyrchu adroddiadau.

Prif dasgau
Cynorthwyo i gyflenwi rhaglen gytunedig o ddysgu anffurfiol mewn amrywiaeth o leoliadau i unigolion neu grwpiau o blant a phobl ifanc a ble y bo’n bosibl darparu cyfle i achredu eu cyflawniadau.

Cynorthwyo i ddatblygu rhaglenni a fydd yn darparu cefnogaeth ychwanegol i bobl ifanc a fydd yn gwella eu cyfleoedd o oresgyn trallod a allai amharu ar eu datblygiad personol a’u cyflawniad personol.

Cynorthwyo wrth gefnogi ysgolion i gyflenwi rhaglenni dysgu penodol sy’n sefyll ar y fframwaith cymhwyster i bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddatgysylltiedig oddi wrth addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth (NEET) e.e. Gwobr Dug Caeredin i Ieuenctid.

Gweithio â phlant a phobl ifanc o grwpiau a dangynrychiolir i’w cefnogi a’u galluogi drwy amrywiaeth o gyfleoedd personol, cymdeithasol a dysgu a gwahanol leoliadau, gael yr hyder i integreiddio i mewn i ddarpariaethau a digwyddiadau’r brif ffrwd.

Defnyddio offer priodol er mwyn cynllunio’n effeithiol, diwallu anghenion nodau’r sefydliad a mesur effaith gaiff yr ymyrraeth honno ar ddatblygiad cymdeithasol a phersonol pobl ifanc.

Cael adborth oddi wrth bobl ifanc a phartneriaid er mwyn adlewyrchu ar ymarfer, adolygiad a gwerthuso gan felly wella perfformiad yn barhaus.

Sicrhau fod pobl ifanc yn cael eu cynnwys a’u hymgynghori wrth gynllunio’r rhaglen a’u bod yn ymgysylltiedig â’r broses o wneud penderfyniadau. Galluogi pobl ifanc i sefydlu a chynnal cysylltiadau â fforymau yn enwedig Fforwm Ieuenctid Merthyr Tudful, cynghorau ysgolion ac annog Pobl Ifanc i gael eu cynrychioli ar Fforymau Cenedlaethol.

Cynorthwyo pobl ifanc i gael mynediad at wybodaeth o’r amrywiaeth o wasanaethau gwybodaeth a chefnogaeth sydd ar gael iddynt.

Gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau ac adrannau eraill i ddarparu cyfleoedd i wella datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgiadol pobl ifanc. Tra bo defnydd effeithiol a da o adnoddau yn cael ei wneud yn y gymuned.

Cynorthwyo i ddarparu cofnodion effeithiol am eich maes gwaith gyda phobl ifanc drwy MIS y gwasanaeth ieuenctid gan sicrhau bod dysgu pobl ifanc yn cael ei gofnodi’n effeithiol.

Cynorthwyo wrth ddynodi adnoddau perthnasol i gefnogi cyflenwi cwricwlwm cytbwys am gyfleoedd a gweithgareddau dysgu, oddi fewn i’r adnoddau cytunedig neu’r adnoddau sydd ar gael.

Sicrhau fod arferion gwaith yn ddiogel, gan gadw at bolisi, gweithdrefnau ac arferion diogelu iechyd a diogelwch CBSMT.

Cwblhau’r prosesau a’r gweithdrefnau gweinyddol angenrheidiol a gweithio’n effeithiol tuag at ddyddiadau cau a rhoi adborth a mynychu’r holl gyfarfodydd perthnasol.


Cyfranogi’n bersonol o leiaf ddwywaith y flwyddyn mewn cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus.

Cwblhau unrhyw dasg arall fel yr ystyrir sy’n briodol i rôl ran amser gweithiwr ieuenctid ar gais yr Uwch Weithiwr Ieuenctid neu’r Swyddog Ieuenctid a Chymunedol.