MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Swyddog iechyd a diogelwch
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £29,998 - £34,897
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Iechyd a Diogelwch (Tân, Adeiladu, Amgylcheddol)

Hyfforddwr Iechyd a Diogelwch (Tân, Adeiladu, Amgylcheddol)

Coleg Gwyr Abertawe
Dyma gyfle cyffrous i hyfforddwyr cymwys ymuno â’n tîm llwyddiannus a phroffesiynol, sy’n gweithredu oddi mewn Hyfforddiant CGA, sef cangen fasnachol y Coleg.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn hyfforddi ac yn asesu dysgwyr o fewn y sector iechyd a diogelwch.

Byddwch yn gweithio gyda chyflogwyr i nodi, cefnogi a gweithredu datrysiadau hyfforddiant er mwyn diwallu anghenion sefydliadau penodol. Bydd gofyn i chi ddarparu profiad dysgu llyfn sy’n datblygu’r unigolyn a chynorthwyo datblygiad ei sgiliau. Mae’r cyrff dyfarnu’n cynnwys NEBOSH, IOSH, City & Guilds a Highfield. Mae’r rhaglenni’n cynnwys cyrsiau achrededig, hyfforddiant arbennig ac ymgynghoriaeth.

Yn meddu ar brofiad llwyddiannus o weithio mewn rôl iechyd a diogelwch, bydd gennych wybodaeth fasnachol berthnasol a phrofiad a dealltwriaeth o’r cymwysterau gan gynnwys anghenion hyfforddi.

Yn ogystal â hyn, byddwch yn meddu ar gymhwyster lefel 4 mewn Iechyd a Diogelwch; yn ddelfrydol Diploma NEBOSH a bydd gennych Dystysgrif NEBOSH Cyffredinol. Byddai cymhwyster addysgu cydnabyddedig, dyfarniad asesu A1 a chefndir ym maes adeiladu/amgylcheddol a/neu tân yn fanteisiol.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).