MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Cynorthwyydd Cyfathrebu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Gorffen: 30 June, 2023
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £19,425 - £19,425
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Profiad Myfyrwyr

Cynorthwyydd Profiad Myfyrwyr

Coleg Gwyr Abertawe
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymdrechu’n barhaus i ddarparu cyfleoedd o’r radd flaenaf i’w ddysgwyr. Rydym yn chwilio am ddau Gynorthwyydd Profiad Myfyrwyr newydd i ymuno â’r tîm cymorth myfyrwyr bywiog.

Prif bwrpas y rôl yw sicrhau amgylchedd diogel a chroesawgar i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr, gan gynnal gwerthoedd craidd y coleg. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn darparu gwasanaeth gweladwy, cwrtais ac effeithlon yn ystod oriau’r coleg, gan annog dysgwyr i gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau’r coleg ac ymddwyn mewn modd derbyniol. Bydd gofyn i’r ymgeiswyr llwyddiannus weithredu fel llysgenhadon ar gyfer y Coleg ar y campysau ac oddi arnynt. Byddant yn monitro ac yn mynd i’r afael ag ymddygiad myfyrwyr yn effeithiol, gan ddilyn cyfarwyddiadau’r coleg ac atgyfeirio myfyrwyr lle bo angen.

Yn ogystal, bydd ymgeiswyr yn gallu gweithio’n wych mewn tîm, yn hapus i gefnogi cydweithwyr y tîm profiad dysgwyr i greu a hybu cyfranogiad dysgwyr trwy weithgareddau tiwtorial, datblygiad personol a chyfoethogi. Gan fod y rôl yn canolbwyntio ar ddysgwyr, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn bositif, hyderus, brwdfrydig ac yn fedrus wrth ymgysylltu ag ystod eang o unigolion a grwpiau gwahanol o fewn cymuned y coleg.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).