MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Swyddog iechyd a diogelwch
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Misol
  • Salary Range: £29,998.00 - £31,997.00
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Swyddog Cyfleusterau – Cydymffurfiaeth

Swyddog Cyfleusterau – Cydymffurfiaeth

Coleg Gwyr Abertawe
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am unigolyn sydd â’r profiad a’r cymhwysedd priodol i weithio fel Swyddog Cydymffurfiaeth – Cyfleusterau o fewn yr adran Ystadau.

Yn atebol i’r Rheolwr Ystadau, byddwch yn gyfrifol am ddatblygu, rheoli a monitro systemau’r Coleg ar gyfer materion Iechyd a diogelwch a bydd gofyn i chi hefyd fod yn gyrfrifol am archwiliadau stadudol a chydymffurfio Amgylcheddol.

Yn meddu ar wybodaeth weithredol o faterion cydymffurfio statudol a gofynion profi (adeiladau ac eiddo, yn benodol), bydd gennych brofiad ardderchog o reoli cofnodion a gwybodaeth uniongyrchol o Ddiogelwch Tân.

Bydd gennych (neu’n barod i weithio tuag at o fewn 6 mis) Dystysgrif Genedlaethol Cyffredinol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol.

Bydd gofynion y rôl hon yn golygu gyrru o un safle i’r llall.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).