MANYLION
  • Lleoliad: Yale, Wrexham, LL12 7AB
  • Testun: Gweithiwr Cymorth Dysgu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: 29 August, 2022
  • Dyddiad Gorffen: 21 July, 2023
  • Math o gyflog: Misol
  • Salary Range: £19,136.00 - £19,519.00
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Dysgu - Nifer o Swyddi

Cymhorthydd Dysgu - Nifer o Swyddi

Coleg Cambria
Mae Coleg Cambria yn chwilio am Gymorthydd Dysgu i ymuno â’n tîm yn Iâl, Wrecsam i gynnig cymorth i’n dysgwyr sydd gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Yn ddelfrydol rydym yn chwilio am unigolyn sydd gyda phrofiad blaenorol mewn cynnig cymorth i ddysgwyr mewn amgylchedd addysg. Rydym yn awyddus i recriwtio pobl sy’n credu’n angerddol bod grymuso a galluogi pobl ifanc gydag ystod o alluoedd o fewn amgylchedd addysg yn eu helpu nhw i fodloni eu gobeithion bywyd a gwaith.
JOB REQUIREMENTS
Gofynion Hanfodol

Mae'n hanfodol bod gennych chi sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i addasu eich dulliau cyfathrebu yn ôl y galw i fodloni anghenion pobl ifanc ac oedolion.

Mae'n hanfodol bod gennych sgiliau llythrennedd a rhifedd cadarn Lefel 2 neu'n uwch.

Rydym yn chwilio am unigolion sy’n gallu dangos empathi a dealltwriaeth am ystod o anawsterau/anghenion dysgu yn ogystal â dangos gwytnwch, amynedd a synnwyr digrifwch.

Yn ddelfrydol bydd gennych chi brofiad blaenorol yn yr ystafell ddosbarth o gynnig cymorth i ddysgwyr sydd gydag anghenion dysgu ychwanegol neu brofiad personol perthnasol helaeth.

Bydd disgwyl i chi ddangos brwdfrydedd dros rymuso a galluogi pobl ifanc.

Byddwch yn dangos y gallu i adeiladu perthnasau gwaith da gyda dysgwyr a staff a’r gallu i reoli grwpiau o ddysgwyr. Mae angen dangos dull cadarnhaol o ymateb i ymddygiadau heriol.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.