MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,639 - £31,149
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 08 Awst, 2022 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Ymarferydd yn y Gwaith - Arlwyo

Ymarferydd yn y Gwaith - Arlwyo

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth

Teitl y Swydd: Ymarferydd yn y Gwaith - Arlwyo

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol, Llawn amser

Graddfa Gyflog: £27,639- £31,149 

Mae gennym swydd wag ar gyfer ymarferydd dysgu yn y gwaith gyda’n hadran gwasanaethau arlwyo. Bydd yr ymarferydd yn asesu’r ystod lawn o gymwysterau yn y maes pwnc perthnasol yn unol ag anghenion y sefydliad dyfarnu sy’n gysylltiedig â sgiliau a chymhwysedd galwedigaethol. Byddwch yn gweithio gyda grŵp o ddysgwyr sydd wedi’u pennu gan fformiwla pennu grwpiau y coleg. Bydd yr Ymarferydd yn cynnal Dadansoddiad Anghenion Hyfforddi i ddysgwyr, eu cofrestru ar gyrsiau addas a darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu yn ogystal â chyflwyno sesiynau gwybodaeth greiddiol i ddysgwyr naill mewn sesiynau 1-1 neu mewn gweithdai (rydym yn argymell grwpiau sy’n â llai na 8).

Gofynion Hanfodol

Cymhwyster proffesiynol perthnasol ar o leiaf Lefel 4 neu gyfwerth

Bod â chymhwyster asesydd (TAQA) neu’n barod i weithio tuag at hynny

Bod â chymhwyster Sicrhau Ansawdd (ar hyn o bryd Uned 401 TAQA) neu’n barod i weithio tuag at hynny

Cymhwyster hyfforddi neu addysgu ychwanegol. (E.e. PTLLS)

Cymwysterau Lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth) Gradd 4 (C) neu uwch

Bod â chymhwyster Lefel 2 mewn Llythrennedd Digidol neu’n barod i weithio tuag at hynny

Gallu defnyddio ystod o offer a rhaglenni technoleg ddigidol, gan gynnwys cynnyrch Microsoft a Google. Rhagweithiol gyda thechnolegau a datblygiadau newydd.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg. 

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’. 

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny. 

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Os byddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ddibynnol ar y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.

Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau ein swyddi gwag yn gynharach na’r dyddiad a nodwyd petaem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer y swydd.