MANYLION
- Lleoliad: Pencoed, Bridgend, CF35 5LG
- Testun: technegydd
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Salary Range: £27,877 - £33,011
- Iaith: Saesneg
This job application date has now expired.
Peiriannydd Cerbydau / Peiriannau Trwm a Chydlynydd Gweithdy
Coleg Penybont
Fel aelod o’r tîm Cerbydau Trwm, byddwch yn cynnal a chadw’r holl gerbydau, offer, taclau, offerynnau a chymhorthion addysgu i sicrhau bod rhaglenni dysgu’n gweithredu’n ddiogel ac effeithlon, gan gynnwys dogfennaeth briodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gosod cerbydau a gweithdai amrywiol ar gyfer arddangosiadau, sesiynau ymarferol, ac asesiadau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda'r tîm Masnachol i gynllunio logisteg ac adnoddau ar gyfer darpariaeth fasnachol. Byddwch hefyd yn gweithio i ddod o hyd i gerbydau priodol a’u cynnal i’w defnyddio yn y gweithdy, a byddwch yn barod i ymgymryd ȃ chyfrifoldebau cydlynu ar draws y gweithdai Cerbydau Modur a hyfforddiant cysylltiedig ar gyfer amserlennu a chynllunio adnoddau.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gymhwyster Lefel 3 o leiaf ac yn meddu ar ystod gynhwysfawr o brofiad o gynnal ac atgyweirio cerbydau trwm a pheiriannau. Byddwch hefyd yn meddu ar sgiliau gweithdy cyffredinol da, yn cynnwys y gallu i gynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau a pheiriannau amrywiol. Yn ogystal â sgiliau rhyngbersonol rhagorol a’r gallu i ddatblygu perthynas â myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol, fe fyddwch yn angerddol am ysgogi pob dysgwr.