MANYLION
  • Lleoliad: Penygroes, Gwynedd, LL54 6AA
  • Testun: Pennaeth Adran
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,491 - £42,333
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Arweinydd y Gyfadran Dyniaethau

Arweinydd y Gyfadran Dyniaethau

Cyngor Gwynedd
YSGOL DYFFRYN NANTLLE, PENYGROES
(Cyfun 11 - 18; 420 o ddisgyblion)
Ail Hysbysebu

Yn eisiau: 1 Medi, 2022

ARWEINYDD Y GYFADRAN DYNIAETHAU

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr brwdfrydig a chymwysedig i arwain y gyfadran Dyniaethau a dysgu Hanes yn Ysgol Dyffryn Nantlle.

Mae Ysgol Dyffryn Nantlle yn chwilio am athro cymwysedig sydd â gwybodaeth drylwyr am y Cwricwlwm Cenedlaethol mewn Hanes o fis Medi 2022 ymlaen, sy'n gallu addysgu Hanes i ddisgyblion o bob oed a gallu yng Nghyfnodau Allweddol 3, 4 ac UG a Lefel Uwch mewn Hanes, gyda'r gallu i ysgogi disgyblion ac ysgogi diddordeb mewn Hanes yn ogystal â gallu arwain y gyfadran Dyniaethau.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£27,491 - £42,333) y flwyddyn yn ôl profiad a chymwysterau ynghyd â lwfans Cyfrifoldebau Addysgu a Dysgu (CAD 2) o £4,870 a lwfans cymhelliant a recriwtio o £2,500 y flwyddyn, i ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymwysterau.

Mae’r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â’r Dirprwy Bennath, Mr. Huw G Evans

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Ms. Elen Williams, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6AA, (Rhif ffôn 01286 880345)
e-bost: sg@dyffrynnantlle.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD GWENER, 20 MAI, 2022.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.