MANYLION
  • Lleoliad: New Tredegar,
  • Testun:
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £10.00 - £12.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Gofalwr

Gofalwr

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Gofalwr
Disgrifiad swydd
Rydyn ni'n recriwtio 2 Gofalwr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Oriau gwaith: Mae un swydd yn rhan-amser o leiaf 10 awr yr wythnos ac mae'n gontract cyfnod penodol am 12 mis.

Mae'r llall yn rôl Gofalwr/Glanhawr Wrth Gefn, eto yn swydd ran-amser i gyflenwi yn ystod absenoldeb.
Lleoliad: Nghanolfan Cymunedol Tirphil

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Chwaraeon a Hamdden ehangach.

Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £12 Awr Cyflog Byw Gwirioneddol ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Yn y ddwy rôl, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cyflawni rôl y gofalwr/glanhawr ar y safle, yn cyflenwi gwaith gyda'r nos ac yn enwedig ar y penwythnos, gan gynnwys cloi yn hwyr yn y nos. Bydd hi'n hanfodol i ddeiliaid y swyddi fod ar gael i gael mynediad i'r ganolfan gymunedol yn gyflym ac, os oes angen, sawl gwaith y dydd.

Bydd y swyddi'n gofyn am wybodaeth dda a phrofiad o ran iechyd a diogelwch, dulliau glanhau diogel a defnyddio offer glanhau mecanyddol. Mae'r swyddi'n golygu gwaith codi a chario sylweddol wrth baratoi'r lleoliad i'w ddefnyddio gan grwpiau defnyddwyr a gall hyfforddiant yn y swydd gael ei ddarparu os oes angen.

Er bydd deiliaid y swyddi'n cael eu cyflogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, bydd gofyn iddyn nhw weithio'n agos gyda'r pwyllgor rheoli gwirfoddol sy'n rheoli'r gwaith o redeg y ganolfan o ddydd i ddydd.

Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
  • Ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gofynion iechyd a diogelwch yn enwedig glendid a hylendid.
  • Y gallu i weithredu ar ei g/chymhelliant ei hun ac ymdrin â phroblemau annisgwyl.
  • Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant sy'n gysylltiedig â'r swydd.

Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.

Gweler y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person atodedig, ond os hoffech chi ragor o fanylion, cysylltwch â Jeff Reynolds ar 07903 426600/reynoj@caerffili.gov.uk neu John Ullman ar 07786 246810/ollmaj@caerffili.gov.uk

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk

am ragor o wybodaeth.