MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF10 5NB
  • Testun: Cydlynydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £28,064 - £35,034
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 10 Mai, 2024 5:00 y.p
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm

Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Yn y rôl amrywiol gyffrous hon yn Addysg Oedolion Cymru byddwch yn cynorthwyo i gynorthwyo a chefnogi datblygiad rhanbarthol a gweithrediad o raglen gydlynol o ddarpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned wyneb yn wyneb/ar-lein/cymysg yn ardal daearyddol Caerdydd.

Er y byddwch yn ymdrin â rhaglen darparu cwricwlwm, nid yw hon yn rôl addysgu nag yn rol sydd yn datblygu/dylunio/Adnoddau cyrsiau.Mae hon yn rôl ymarferol, gan weithredu'n gyflym, byddwch yn allweddol wrth gynorthwyo'r Rheolwr Rhanbarthol i sicrhau bod yr holl weithgareddau dysgu yn bodloni’r targedau darpariaeth, cyllid ac ansawdd.

Os ydych yn mwynhau amgylchedd gwaith cyflym, amrywiol a gwerth chweil a bod gennych y sgiliaugofynnol, dyma’r cyfle perffaith i ymuno â ni.

Ymgeisiwch erbyn Dydd Gwener 10fed Mai 2024 gan ddefnyddio'r ffurflen gais - nodwch nad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog ac amrywiol. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.