MANYLION
  • Lleoliad: Various locations in the Borough,
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Gweithiwr Cymorth y Blynyddoedd Cynnar

Gweithiwr Cymorth y Blynyddoedd Cynnar

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Gweithiwr Cymorth y Blynyddoedd Cynnar
Disgrifiad swydd
Rydyn ni'n recriwtio Gweithiwr Cymorth y Blynyddoedd Cynnar yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Oriau gwaith: 37 Oriau
Math o gontract: Tymor Penodol/Llawn amser
Lleoliad: lleoliadau amrywiol ar draws y fwrdeistref

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws Y Blynyddoedd Cynnar ehangach.

Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £24,294- £25,979 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Mae Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili yn recriwtio weithiwr y Blynyddoedd Cynnar sy'n dymuno ennill profiad o weithio mewn amgylchedd cymorth i deuluoedd.

Bydd y gweithwr yn cael eu hyfforddi i ddarparu ein hymyraethau cymorth i deuluoedd yn y gymuned ac yn rhithwir. Mae'r cymorth yn canolbwyntio ar ddatblygiad plant a sgiliau iaith cynnar. Mae cymorth ar gael i deuluoedd o'r cyfnod cynenedigol ac yn canolbwyntio ar Beth sy'n Bwysig i'r teulu. Mae'r holl ymyraethau ar gyfer plant 0-7 oed, gyda'r nod o helpu rhieni, helpu datblygiad eu plentyn a rhoi cymorth o ran gwytnwch teuluoedd.

Bydd y swydd wedi ei lleoli un ai yn y Ganolfan Integredig i Blant, Parc y Felin; Canolfan Gymunedol Gelligaer neu Cherry Tree House ond bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n ystwyth ledled y Fwrdeistref Sirol mewn cartrefi a lleoliadau cymunedol, yn ogystal â gweithio gartref rhywfaint. Mae'r swydd hon yn rhan o dîm ehangach y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ac mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol.

Bydd disgwyl i'r ymgeiswr llwyddiannus ddysgu Cymraeg sgyrsiol sylfaenol a bydd ganddyn nhw brofiad o weithio gyda theuluoedd a phlant. Bydd gan yr unigolion llwyddiannus gymhwyster lefel 2 perthnasol a byddan nhw'n barod i ymgymryd â hyfforddiant er mwyn gallu darparu amrywiaeth o raglenni datblygu plant.

Mae'r swyddi'n cael eu hariannu'n bennaf drwy Dechrau’n Deg ac, felly, swyddi am gyfnod penodol ydyn nhw oherwydd telerau ac amodau’r grant, hyd at 31 Mawrth 2025.

Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
  • Cymhwyster Lefel 2 perthnasol ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru. Er enghraifft, Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, Gofal Iechyd a Cymdeithasol.
  • Profiad o weithio yn y gymuned yn cynorthwyo'r gwaith o gyflwyno grwpiau/darpariaeth cymunedol.
  • Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynychu cyfarfodydd/ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi.

Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Ceri Anne Lovell ar 07850319121 neu ebost: Lovelc@caerphilly.gov.uk.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.