MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed Primary,
  • Testun:
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Ddosbarth - Ysgol Gynradd Pencoed

Athro/Athrawes Ddosbarth - Ysgol Gynradd Pencoed

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Athro/Athrawes Ddosbarth - Ysgol Gynradd Pencoed
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos.

Dros dro hyd at 12 mis neu hyd nes y bydd deiliad y swydd yn dychwelyd; pa un bynnag sydd gynharaf.

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Pencoed yn dymuno penodi athrawon llawn cymhelliant, ysbrydoledig sy'n ymrwymedig i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymuned ysgol.

Rydym yn chwilio am athrawon dosbarth sy'n datblygu perthnasoedd effeithiol iawn â phob aelod o'r gymuned ysgol ac sy'n dangos ymrwymiad diwyro i ddarparu'r cyfleoedd dysgu gorau posibl i bawb.

Bydd angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus ddangos arfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth a bod yn angerddol, yn uchelgeisiol, yn hunanfyfyriol ac yn frwdfrydig i gyfrannu at ein cymuned ysgol hapus, lwyddiannus a chynhwysol. Byddant yn ymrwymedig i ymgysylltu â theuluoedd a chyfrannu at waith ymgysylltu helaeth â theuluoedd ein hysgol. Byddant yn darparu profiadau dysgu ysbrydoledig i blant sy'n eu galluogi i ddatblygu fel dysgwyr annibynnol, chwilfrydig, myfyriol, cydweithredol, a chydnerth.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael budd o gyfleoedd dysgu a datblygu proffesiynol o ansawdd ar bob cam o'u gyrfa. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â chymuned ysgol ffyniannus sydd â staff, tîm arwain a chorff llywodraethu cefnogol.

Dyddiad Cau: 08 Mai 2024

Dyddiad llunio rhestr fer: 10 Mai 2024

Dyddiad Cyfweld: 20 Mai 2024

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person