MANYLION
  • Testun:
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

COGYDD, YSGOL GYNRADD GELLIFAELOG

COGYDD, YSGOL GYNRADD GELLIFAELOG

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL MERTHYR TUDFUL

Cyfarwyddiaeth Pobl a Pherfformiad, Adran Ysgolion
Arlwyo Ysgolion

COGYDD

YSGOL GYNRADD GELLIFAELOG

22.5 awr yr wythnos (Yn ystod y tymor yn unig)
Graddfa 2 SCP 6 - £23,893 y flwyddyn pro rata
53.18% of £23,893 = £12,706 y flwyddyn

Dechrau cyn gynted a phosib

Bydd y cogydd yn gyfrifol am archebu, paratoi, coginio a gwasanaeth prydau bwyd gan gydymffurfio â gofynion deddfwriaethol ac arfer da, yn ôl y safon a osodir yn y Contract Arlwyo. Hefyd, cyfrifoldeb dros y sefydliad, goruchwylio a hyfforddi staff arlwyo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd i gwsmeriaid mewn amgylchedd gwaith diogel. Cydymffurfio â'r holl weithdrefnau gweinyddol ac ariannol a osodwyd allan ym manyleb y Contract.

Dyddiad cau: 8fed Mai 2024

Mae tystysgrif ddilys hylendid Lefel II yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Gellir cael manylion pellach drwy gysylltu â Fairyal Pabani ar 01685 725000.

Rhaid i bob gweithiwr newydd gwblhau cwrs Gwaith Cymraeg arlein 10 awr. Rhaid cwblhau rhan 1 a 2 o'r cwrs a dangos tystiolaeth o hyn cyn dechrau gweithio gyda'r Awdurdod. Am wybodaeth bellach am sut i gwblhau'r cwrs hwn ewch i: https://learnwelsh.cymru/work-welsh/work-welsh-courses/work-welsh-taster-courses/
Gwnewch gais ar-lein - www.merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae'r swydd hon yn destun gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Gellir cwblhau ffurflenni cais ar-lein ar www.merthyr.gov.uk
Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gellir cael ffurflenni cais drwy ffonio 01685 725000 a'u dychwelyd, ddim hwyrach na 8fed Mai 2024 at Gweinyddiaeth AD, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Gallwn bennu dyddiad cau cynt i'r swydd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gall ffurflenni cais gael eu cyflwyno yn y Gymraeg ac ni fydd ffurflenni a fydd yn cael eu cwblhau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn y Saesneg. Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer, cysylltwch â ni er mwyn dweud wrthym os hoffech i'ch cyfweliad gael ei gynnal yn yGymraeg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ymrwymedig i ddiogelu'r rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Bydd gwiriadau cyncyflogaeth trylwyr yn cael eu gwneud ar gyfer pob swydd fel rhan o'r broses recriwtio a dethol.

Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson heb awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod neu wedi'ch cyflogaeth oni bai y bydd disgwyl i chi wneud hynny dan amodau eich cyflogaeth, pan fydd yn ofynnol, yn gyfreithiol i wneud hynny neu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful neu'r ddau. Gall torri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn rhoi gwerth ar amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain yn Gyflogwr o Ddewis sydd yn ymroddedig i hybu ac integreiddio cydraddoldeb cyfle ymhob agwedd o'n gwaith. Croesawn geisiadau gan bawb ac anogwn ymgeiswyr o bob grwp a chefndir i wneud cais ac ymuno â ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymrwymedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle a sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn ystod y broses recriwtio a dewis a hynny ar sail oed, anabledd, rhywedd, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd a beichiogrwydd a mamolaeth.