MANYLION
  • Lleoliad: Ystrad Mynach,
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Mai, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes - Ysgol Gymraeg Penalltau

Athro/Athrawes - Ysgol Gymraeg Penalltau

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Athro/Athrawes - Ysgol Gymraeg Penalltau
Disgrifiad swydd

Yn eisiau : Athro / Athrawes + CAD 2A- Llawn amser, Parhaol

Gwahoddir ceisiadau gan athrawon cymwys a phrofiadol ar gyfer swydd llawn amser , parhaol o Fedi 2024 fel athro/ Athrawes gyda chyfrifoldebau ychwanegol am Ddysgu ac Addysgu ar draws yr ysgol (CAD2).

Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n chwilio am her wrth fod yn rhan o dîm uchelgeisiol a fydd yn cael eu harwain gan bennaeth newydd. Mae hwn yn gyfle heb ei ail i ddatblygu’n broffesiynol gan fireinio ac ymestyn eich sgiliau arweinyddol personol fel uwch-arweinydd y dyfodol.

Mae’r llywodraethwyr yn awyddus i benodi person ymroddedig a thalentog, sydd yn barod i fod yn aelod o dîm addysgu egniol a gweithgar. Dylai’r ymgeisydd arddangos brwdfrydedd heintus tuag at sicrhau rhagoriaeth ar draws yr ysgol ac yn arweinydd ysbrydoledig ac uchelgeisiol. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gyfrifoldeb addysgu yn ogystal â chyfrifoldeb arweinyddiaeth penodedig. Mae’r gallu i arwain drwy esiampl er mwyn ysgogi eraill tuag at ragoriaeth yn hanfodol.

Fel aelod o’r Uwch Dîm Arweinyddol, byddwch yn chwarae rhan weithredol wrth yrru blaenoriaethau gwella ysgol ac yn cydweithio yn ein hymgyrch barhaus i ddarparu’r addysg orau bosibl i’n plant.

Mae Ysgol Penalltau yn ysgol hapus, lle rhoddir pwyslais ar les disgyblion a staff. Mae hybu’r Iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig yn allweddol i’n Cwricwlwm. Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu’r Gymraeg yn rhugl yn hanfodol i’r swydd.

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Andrea Woods ar 01443 862974 neu ebost: ysgolpenalltau@sch.caerphilly.gov.uk

Arsylwadau gwersi: Wythnos yn dechrau 20/5/24

Cyfweliadau : 23/5/24

Gall ymgeiswyr wneud cais drwy Eteach.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.