MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, All Wales, CF5 2YB
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 01 July, 2024
  • Dyddiad Gorffen: 31 August, 2026
  • Math o gyflog: Misol
  • Salary Range: £44,263.00 - £49,794.00
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 16 Mai, 2024 10:59 y.p
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Cymraeg mewn Therapi Iaith a Lleferydd, Cyfrwng Cymraeg

Darlithydd Cymraeg mewn Therapi Iaith a Lleferydd, Cyfrwng Cymraeg

Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Yn 2020 cafodd y Brifysgol ein henwi’n 'Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021' gan The Sunday Times; yn 2021 cawsom ein henwi’n 'Brifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2022' gan y Times Higher Education ac yn 2022 cawsom ein rhestru fel y brifysgol orau yn y DU am gynaliadwyedd yng Nghynghrair Werdd People and Planet a’r brifysgol orau yng Nghymru yn yr Arolwg Hynt Graddedigion.

Os oes gennych hanes o gyraeddiadau sy'n dangos yr ymrwymiad, y gallu a’r brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu fyd-eang trwy addysgu, ysgolheictod, ymchwil ac arloesi rhagorol, ynghyd ag angerdd a rennir am ein gwerthoedd a'n gweledigaeth, edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan, ac i gefnogi, ymgeiswyr a fydd yn helpu i ddatblygu ein statws ymchwil ac a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a'n partneriaethau.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

Bydd gofyn i chi ddarparu addysgu academaidd a chlinigol i gyfrannu at ddarparu ystod o fodiwlau pediatrig o fewn y rhaglen BSc (Anrh) mewn Therapi Iaith a Lleferydd, ac i ddatblygu proffil ymchwil yr adran. Disgwylir i ddeiliad y swydd feddu ar arbenigedd clinigol mewn perthynas â gweithio gydag anhwylderau lleferydd, iaith a chyfathrebu pediatrig a/neu anawsterau bwyta ac yfed pediatrig yn ogystal â bod yn siaradwr Cymraeg rhugl. Bydd deiliad y swydd wedi'i gofrestru gyda HCPC ac wedi bod yn gweithio fel therapydd iaith a lleferydd am o leiaf 3 blynedd. Bydd ganddynt brofiad o oruchwylio myfyrwyr ar leoliad gwaith.

Beth rydym yn chwilio amdano

Lefel dda o wybodaeth sy'n berthnasol i'r pwnc a'r maes proffesiynol.
Dealltwriaeth gadarn o addysgeg.
Dealltwriaeth gadarn o ymchwil/arloesi a gweithgarwch ysgolheigaidd.
Y gallu i ddatblygu rhaglenni addysgu a/neu ymchwil a darparu cymorth dysgu.
Y gallu i ddylunio deunydd addysgu a dysgu.
Y gallu i ddefnyddio dulliau asesu priodol.
Y gallu i nodi meysydd i'w gwella a defnyddio menter a sgiliau datrys problemau i wella perfformiad.
Y gallu i gyfleu a lledaenu syniadau cymhleth a chysyniadol mewn amryw o ffyrdd - cyflwyniadau mewn cynadleddau, adroddiadau ar ganfyddiadau, cyhoeddiadau, adborth ac ati.
Profiad o addysgu AU neu gyfatebol.
Profiad o ddarparu arweinyddiaeth academaidd a chymorth llinell gyntaf/mentora i gydweithwyr eraill.
Gradd anrhydedd dda.
Cymhwyster doethurol.
Y gallu i ennill Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch, o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt (cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl ac yn bendant cyn pen tair blynedd o ddechrau eich cyflogaeth).

Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr. Mae proffil ymchwil sefydledig neu addawol a phrofiad addysgu da iawn ar raglenni perthnasol yn hanfodol.

Er mwyn llwyddo, byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach drwy eich arbenigedd a'ch gwybodaeth bwnc fel yr amlygir gan eich cymwysterau a'ch profiad.

Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch ag Jo Fawcett, ar jfawcett@cardiffmet.ac.uk

Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.

Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch yn draddodiadol.

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch ewch i'n gwefan recriwtio staff i gael gwybodaeth am weithio inni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'n cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa a datblygu.
JOB REQUIREMENTS