MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu

Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu

Rhondda Cynon Taf
Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu

Disgrifiad Swydd
Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu wedi’i leoli yn Ysgol Gymunedol Perthcelyn

Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Sylfaen ar gyfer disgyblion ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig

32.5 awr yr wythnos, parhaol (tymor yr ysgol)

Graddfa Gyflog: Gradd 6 pro rata (ynghyd â Lwfans Dosbarth Arbennig)

Dyddiad dechrau: 1 Medi 2024

Rydyn ni'n dymuno cyflogi cynorthwy-ydd cynnal dysgu ar gyfer y ddarpariaeth uchod. Bydd y swydd yn cynnwys cynorthwyo'r athro/athrawes ddosbarth i weithredu rhaglenni unigol, a bod yn gefn i'r disgyblion yn eu dosbarthiadau nhw ac mewn dosbarthiadau prif ffrwd.

Os ydych chi'n angerddol am ddysgu a lles plant ac eisiau eu helpu nhw i ffynnu a llwyddo; yn unigolyn sy'n cael ei arwain gan werthoedd gyda disgwyliadau uchel o gyflawniad am eich hun ac eraill; yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a gwrando ardderchog ac yn gweithio'n dda yn rhan o dîm sy'n fodlon cymryd rhan ym mywyd llawn yr ysgol, yna bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Mae ffurflenni cais, a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y swydd, ar gael ar wefan Swyddi Ysgolion: https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?USESSION=C0A604064EDDAA8962C0EFC1412CCE2F&WVID=2482495vvA&LANG=CYM

Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.

Mae gennyn ni wefan recriwtio newydd a bydd angen i chi greu cyfrif newydd i wneud cais am y swydd yma.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Rachel Williams:

Rachel.Williams3@rctcbc.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 3 Mai 2024.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.