Amdanom Ni
Mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg yn ymdrechu i sicrhau bod pob disgybl yn y Fwrdeistref Sirol yn cael mynediad i ysgolion rhagorol a phrofiadau addysgol cadarnhaol a chyfoethog sy'n eu galluogi i gyflawni'r deilliannau addysgol gorau posibl yn unol â'u gallu.
Ein cenhadaeth yw 'sicrhau tegwch a rhagoriaeth mewn Addysg a gwell lles i bawb'. Mae partneriaethau cadarn wedi cael eu sefydlu rhwng yr awdurdod lleol, ein lleoliadau nas cynhelir, ysgolion ac unedau atgyfeirio disgyblion trwy gydol y pandemig. Mae'r partneriaethau yma'n gadarn gyda phob un yn rhannu'r un brwdfrydedd a'r un nod sef sicrhau bod pob disgybl yn cael mynediad i brofiadau dysgu ac addysgu o'r ansawdd uchaf, fel bod modd iddyn nhw wneud cynnydd a thyfu i fod yn ddysgwyr gydol oes. Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth 'Ysbrydoli a bod yn gefn i arweinyddiaeth ac ymarfer proffesiynol rhagorol, fel bod pob disgybl yn Rhondda Cynon Taf yn gwneud cynnydd da ac yn tyfu'n unigolyn uchelgeisiol, galluog, creadigol ac sy'n wybodus yn foesegol' mae angen arweinyddiaeth ac ymarfer proffesiynol gwych arnon ni ar bob lefel yn y system.