MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Learning Support Assistant - SEBD - Glenboi Primary

Learning Support Assistant - SEBD - Glenboi Primary

Rhondda Cynon Taf
Learning Support Assistant - SEBD - Glenboi Primary

Disgrifiad Swydd
Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu ar gyfer Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 2 (Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol) yn Ysgol Gynradd Gymunedol Glen-boi

Awr: 32.5 awr yr wythnos (tymor yr ysgol)

Cyflog: Gradd 6 (£25,979 x 77.15%) + ynghyd â Lwfans Dosbarth Arbennig

Dyddad Cychwyn: 3 Mehefin 2024

Hoffai Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf benodi Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu â chymwysterau a phrofiad priodol ar gyfer y Dosbarth Cynnal Dysgu i ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol yn Ysgol Gynradd Gymunedol Glen-boi i ddechrau ar ôl Sulgwyn 2024. Bydd y dosbarth yma ar gyfer hyd at 8 o ddisgyblion rhwng 7 ac 11 oed sydd ag ystod o anghenion dysgu ychwanegol. Mae athro/athrawes a dau Gynorthwyydd Cynnal Dysgu yn gyfrifol am y dosbarth.

Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol a bydd e/hi wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol sy'n berthnasol i ddisgyblion ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Michael Condon yn Nhŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ, rhif ffôn 01443 744398.

Mae ffurflenni cais, a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y swydd, ar gael ar wefan Swyddi Ysgolion: https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?USESSION=C0A604064EDDAA8962C0EFC1412CCE2F&WVID=2482495vvA&LANG=CYM

Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.

Mae gennyn ni wefan recriwtio newydd a bydd angen i chi greu cyfrif newydd i wneud cais am y swydd yma.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 3 Mai 2024.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.