MANYLION
  • Lleoliad: Gilfach,
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes yn Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod

Athro/Athrawes yn Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Athro/Athrawes yn Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod
Disgrifiad swydd
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod yn awyddus i apwyntio athro/ athrawes sydd yn arddangos sgiliau addysgu ardderchog ar lawr y dosbarth i ychwanegu at ein tîm o athrawon brwdfrydig, gweithgar a hapus. Fe fydd yr ysgol yn cefnogi’r ymgeiswyr llwyddiannus i ddatblygu o fewn ei rôl gan roi cyfleodd dysgu proffesiynol o safon uchel.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus:
  • fod yn hollol gymwys yn y Gymraeg;
  • fod yn frwd, yn ofalgar ac yn gallu sicrhau cyfleoedd cyfoethog a hwylus i'r holl ddysgwyr;
  • osod disgwyliadau uchaf i'r dysgwyr o ran ymddygiad, cyflawniad a datblygiad sgiliau;
  • cynnal dysgu ac addysgu o’r safon uchaf posibl i gwrdd ag anghenion ein holl ddysgwyr;
  • weithio'n effeithiol fel aelod o dîm ein hysgol;
  • arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth dda o Gwricwlwm i Gymru a’r fframweithiau sgiliau;
  • dangos safonau uchel wrth ddefnyddio TGCh i gefnogi dysgu
  • sefydlu a chynnal perthynas gadarnhaol gyda'n rhieni a gofalwyr, aelodau o'n Corff Llywodraethol a'n cymuned ehangach;
  • cyfrannu tuag at a chefnogi holl weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol yr ysgol.

Gweler y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person yn y dogfennau atodedig

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Jamie Hallett ar 01443 875528

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.

Lawrlwythwch y ffurlen cais ac ymgeisiwch ar-lein trwy wefan E-teach.

Mae'r swydd wag hon wedi'i phrosesu yn Gymraeg yn unig oherwydd nad oes unrhyw ofynion iaith Saesneg.

Rhestr Fer: Dydd Llun 6.5.24

Arsylwad Gwers: Dydd Gwener 10.5.24

Cyfweliadau: Dydd Llun 13.5.24