MANYLION
  • Lleoliad: Various locations in the Borough,
  • Testun:
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £10,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Dirprwy Arweinydd Gofal Plant

Dirprwy Arweinydd Gofal Plant

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Dirprwy Arweinydd Gofal Plant
Disgrifiad swydd
Rydyn ni'n recriwtio Dirprwy Arweinydd Gofal Plant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 19.5 Oriau
Math o gontract: Rhan Amswer/ Cyfnod Penodol Tan 31/03/2025
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Blynyddoedd Cynnar ehangach.

Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £12,246 - £13,335 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Mae cyfle newydd cyffrous wedi codi o fewn ein gwasanaeth gofal plant bywiog ac o ansawdd uchel, Dechrau’n Deg, ar gyfer Dirprwy Arweinydd Gofal Plant.

Bydd y swydd yn cyflenwi yn ystod cyfnod mamolaeth felly bydd yn gontract cyfnod penodol am 19.5 awr yr wythnos tan 31 Mawrth 2025 (gyda'r potensial i'w ymestyn yn amodol ar gyllid parhaus Dechrau'n Deg).

Y patrwm gwaith ar gyfer y rôl hon yw 8.30am-12.30pm ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau, 8.30am-12.45pm ar ddydd Mercher a 8.30am-11.45am ar ddydd Gwener.

Mae angen i ni lenwi'r swydd hon cyn gynted â phosibl i gadw at ganllawiau Dechrau'n Deg, Rheoliadau Gofal Plant a Safonau Gofynnol Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynorthwyo gyda darparu gofal plant o ansawdd uchel, gan gynnwys gweithredu fel y dirprwy swyddog diogelu dynodedig a rheoli rhediad llyfn y lleoliad o ddydd i ddydd yn absenoldeb yr Arweinydd.

Bydd y Dirprwy Gofal Plant yn cynorthwyo'r Arweinydd wrth hyrwyddo ac annog ymgysylltiad rhieni/gofalwyr a phlant; cynorthwyo gyda'r gwaith monitro, gwerthuso ac adrodd sy'n ofynnol ar gyfer effeithlonrwydd darpariaeth Gofal Plant Dechrau'n Deg; sicrhau cydymffurfio â'r holl ofynion a safonau deddfwriaethol ar gyfer darpariaeth gofal plant cofrestredig; sicrhau amgylchedd cynhwysol a pharchus a gweithio gyda phartneriaid i ddarparu'r rhaglen yn ddi-dor.

Y dirprwy fydd â'r prif gyfrifoldeb am gynorthwyo plant ag anghenion sy'n dod i'r amlwg/anghenion ychwanegol, fel sy'n ofynnol, i gael mynediad i'r rhaglen Dechrau'n Deg.

Bydd deiliad y swydd wedi’i leoli’n bennaf yn lleoliad Dechrau'n Deg Fochriw, fodd bynnag, oherwydd natur y gwasanaeth, efallai y bydd angen i ddeiliad y swydd gynorthwyo lleoliadau Dechrau’n Deg eraill wedi’u lleoli ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili yn achos absenoldeb.

Mae’n ofynnol i’r Dirprwy fod yn gymwys i Lefel 3 gyda 2 flynedd o brofiad ôl-gymhwyso ac, yn ddelfrydol, yn siaradwr Cymraeg. Er ein bod ni’n lleoliad cyfrwng Saesneg, rydyn ni'n symud tuag at gynnig Gofal Plant Dechrau’n Deg dwyieithog. Fodd bynnag, rydyn ni'n hapus i ystyried rhywun sy’n fodlon dysgu Cymraeg.

Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
  • Diploma Lefel 3 CACHE Cymhwyster Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant neu gymhwyster perthnasol cyfatebol
  • Tystysgrif Cymorth Cyntaf Paediatreg cyfredol
  • Gwybodaeth drylwyr am ddeddfwriaeth, cyfarwyddyd a safonau yn ymwneud â darpariaeth y Blynyddoedd Cynnar gan gynnwys y Safonau Gofynnol Cenedlaethol

Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.

Gweler y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person am ragor o fanylion, fodd bynnag, os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Claire Williams ar 07766 303557 neu Willic23@caerffili.gov.uk

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk

am ragor o wybodaeth

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.