MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend,
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Lecturer in Maths

Lecturer in Maths

Coleg Penybont
Lecturer in Maths

Disgrifiad o'r swydd Darlithydd Mathemateg

Llawn Amser a Pharhaol

Digymhwyster: £24,049 - £28,381 y flwyddyn

Cymwysedig: £30,620 - £47,331 y flwyddyn

Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Ngholeg Penybont i Ddarlithydd Mathemateg llawn amser ymuno â’n tîm Sgiliau arbennig.

Bydd gennych brofiad blaenorol o gyflwyno cyn-TGAU a TGAU Mathemateg, yn ogystal â'r cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif, gan y byddwch yn chwarae rhan arweiniol wrth baratoi a chyflwyno'r rhaglenni dysgu hyn yn effeithiol ac yn effeithlon, gan gynnwys marcio ac olrhain gwaith dysgwyr / cynnydd. Byddwch yn tywys myfyrwyr ar eu teithiau academaidd, o gymryd rhan yn y broses recriwtio i weithio gyda nhw hyd at ddiwedd eu cyrsiau.

Gofynnwn fod gennych chi wybodaeth am gymwysterau Mathemateg a Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif CBAC presennol hyd at fanylebau Lefel 2, ynghyd ȃ gradd Mathemateg neu brofiad cyfwerth. Dylech hefyd feddu ar dystysgrif TAR (neu fod yn barod i'w chael) a bod â sgiliau rhyngbersonol rhagorol gan gynnwys y gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr.

Os ydych chi'n angerddol am ysbrydoli ac ysgogi pob dysgwr, rydyn ni eisiau clywed gennych chi.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw’r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o’u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.