MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Darlithydd Mathemateg  ar gyfer dysgwyr 14-16 Prentisiaeth Iau

Darlithydd Mathemateg ar gyfer dysgwyr 14-16 Prentisiaeth Iau

Coleg Penybont
Darlithydd Mathemateg ar gyfer dysgwyr 14-16 Prentisiaeth Iau

Disgrifiad o'r swydd Darlithydd Mathemateg ar gyfer dysgwyr 14-16 Prentisiaeth Iau

Llawn Amser a Pharhaol

Digymhwyster: £24,049 - £28,381 y flwyddyn

Cymwysedig: £30,620 - £47,331 y flwyddyn

Mae gennym gyfle cyffrous i Ddarlithydd Mathemateg llawn amser i ymuno â’n tîm angerddol a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont.

Pwrpas y Swydd: Cynllunio, datblygu, gwerthuso a chyflwyno rhaglenni dysgu TGAU Mathemateg ar gyfer dysgwyr 14 - 16 oed Prentisiaeth Iau a gwerthuso canlyniadau.

Bydd gennych brofiad o ddatblygu a threfnu deunyddiau cysylltiedig â gwaith a phrofiad o gyflwyno TGAU Mathemateg a chyn-TGAU. Dylech hefyd feddu ar dystysgrif TAR (neu fod yn barod i'w chael) ynghyd â dealltwriaeth o Fathemateg a Sgiliau Hanfodol Rhifedd CBAC i fyny at fanylebau Lefel 2. Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol bydd gennych brofiad blaenorol o weithio gyda phobl ifanc sydd ag anawsterau cymdeithasol, ymddygiadol a/neu emosiynol cymhleth a’r gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr. Byddwch hefyd yn angerddol dros ysgogi pob dysgwr.

Os ydych chi’n credu y gallwch chi gyfrannu at y dysgu a’r addysgu yn y maes yma, hoffem glywed gennych!

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw’r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o’u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.