MANYLION
  • Lleoliad: Maes-Yr-Haul Primary,
  • Testun:
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Maes yr Haul

Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Maes yr Haul

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Maes yr Haul
Disgrifiad swydd
Yn dechrau ym mis 01 Medi 2024

Mae Ysgol Gynradd Maes yr Haul yn ysgol gynradd fawr, lwyddiannus sy'n gwasanaethu cymuned Broadlands, Pen-y-bont ar Ogwr. Yn dilyn dyrchafiad staff blaenorol, mae ein Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi athro/athrawes llawn cymhelliant, egnïol ac ysbrydoledig gydag angerdd a diddordeb brwd mewn mathemateg a rhifedd i ymuno â'n tîm staff ymroddedig.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos arfer rhagorol yn yr ystafell dosbarth ac angerdd ar gyfer meithrin dysgwyr creadigol, mentrus ac annibynnol. Byddant yn meithrin, yn herio ac yn cefnogi plant i ffynnu yn eu llesiant a sicrhau safonau uchel o gyflawniad academaidd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar ddull brwdfrydig, cadarnhaol o ran cydweithredu ac yn cyfrannu at arloesedd y cwricwlwm. Byddant yn dangos sgiliau rhyngbersonol rhagorol i weithio'n effeithiol mewn partneriaeth â rhieni, cydweithwyr, llywodraethwyr a'r gymuned leol.

Gallwn gynnig ysgol fodern gyda chyfleusterau rhagorol i'r ymgeisydd llwyddiannus. Mae gennym staff profiadol, cydweithredol a thîm arweinyddiaeth, gydag ymrwymiad cryf i gynnal safonau uchel a rhagoriaeth cyfle ar draws y cwricwlwm cyfan.

Mae disgwyl i'n holl athrawon chwarae rhan lawn ym mywyd ein hysgol. Bydd hyn yn cynnwys cyfrannu at gyfarfodydd a datblygu strategol yn ogystal â chynorthwyo gweithgareddau a digwyddiadau cyfoethogi. Mae disgwyl iddynt fod yn gadarnhaol ac yn rhagweithiol am eu dysgu a'u datblygu proffesiynol wrth ddefnyddio'r Gymraeg.

Mae'r ysgol yn mwynhau cefnogaeth Corff Llywodraethu ymrwymedig a hyddysg a Chymdeithas Rhieni a Ffrindiau frwdfrydig.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 8 Mai 2024
Dyddiad llunio rhestr fer: 14 Mai 2024
Dyddiad Cyfweld: 23 Mai 2024

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person