MANYLION
  • Lleoliad: Work location to be confirmed,
  • Testun:
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £19.00 - £22.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Darlithydd Rhifedd (Cyfleoedd ar gael ar draws Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych)

Darlithydd Rhifedd (Cyfleoedd ar gael ar draws Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych)

Grwp Llandrillo Menai
I weithio fel aelod o dîm Multiply i addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu rhifedd effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.

Darparu sesiynau rhifedd mewn canolfannau cymunedol ar hyd a lled Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.

Ariannir y prosiect gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Diben y prosiect yw rhoi cyfleoedd i oedolion sydd ddim yn berchen ar gymhwyster TGAU Mathemateg gradd C (neu gymhwyster cyfatebol) i fynychu cyrsiau rhad ac am ddim sydd wedi eu teilwra ar gyfer yr unigolyn. Gall y dosbarthiadau fod wyneb yn wyneb, ar lein, yn y gweithle, yn ddosbarthiadau nos, yn ddosbarthiadau rhan-amser neu yn rhai dwys.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/223/24

Cyflog
£20.58 - £31.82 yr awr yn cynnwys tâl gwyliau. Dros dro hyd cyfnod y prosiect (31/12/24)

Lleoliad Gwaith
  • Lleoliad gwaith i'w gadarnhau

Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.

Patrwm gweithio
Oriau amrywiol yr wythnos ar gael gan gynnwys nosweithiau a penwythnosau

Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
30 Ebr 2024
12:00 YH(Ganol dydd)